Mae cwmni awyrennau easyJet wedi cyhoeddi cynnydd yn eu helw heddiw ond mae’n rhybuddio y bydd yn anoddach i drosglwyddo cost cynyddol am danwydd i deithwyr.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi cynnydd o 31.5% yn eu helw i £248miliwn yn y flwyddyn hyd at 30 Medi – cynnydd gwell na’r disgwyl ar ôl i’r cwmni wedi cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr busnes.

Dywedodd bod 45% o seddi eisoes wedi eu gwerthu dros y gaeaf – tua’r un faint â llynedd ond mae’r cwmni’n rhybuddio bod y problemau ar draws Ewrop yn golygu y bydd hi’n anoddach  i drosglwyddo costau cynyddol i deithwyr.