Mae Prifysgol Aberystwyth wedi adnewyddu ei phartneriaeth gyda Menter a Busnes, prif gwmni datblygu economaidd annibynnol Cymru.

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda Menter a Busnes ers 2015 i ddarparu modiwlau ôl-radd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau neu sydd eisiau cynorthwyo eraill i ddatblygu eu busnesau.

Dywed Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o adnewyddu ein partneriaeth lwyddiannus gyda Menter a Busnes.

“Mae’r cydweithio sydd rhwng ein Hysgol Fusnes a Menter a Busnes bellach yn ei phumed flwyddyn ac yn parhau i gyfoethogi gyrfaoedd rheini sy’n ymgymryd â’r modiwlau hyn.

“Diolch i’r modiwlau a’r cymhwyster sy’n dilyn, mae gan weithwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain, cymell a mentora ymhellach o fewn eu swyddi a’u rhoi ar waith ar unwaith.”