Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cael gorchymyn i dalu chwe miliwn ewro (tua £5.3m) i glwb Nantes yn Ffrainc yn sgil arwyddo’r chwaraewr Emiliano Sala ym mis Ionawr.

Bu farw’r Archentwr mewn damwain awyren wrth deithio o Ffrainc i Gaerdydd. Fe blymiodd yr awyren i’r Sianel ger Guernsey ar Ionawr 21. Bu farw Emiliano Sala ynghyd a’r peilot David Ibbotson.

Roedd yr Adar Gleision wedi dadlau na ddylen nhw fod yn gyfrifol am y ffi o £15 miliwn gan nad oedd Emiliano Sala wedi’i gofrestru fel chwaraewr swyddogol pan fu farw.

Ond fe benderfynodd pwyllgor y corff rheoli pêl-droed, FIFA, bod yn rhaid iddyn nhw dalu’r swm a fyddai’n ddyledus am ran gyntaf y ffi.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd eu bod am gael rhagor o fanylion cyn penderfynu a ydyn nhw am apelio yn erbyn y penderfyniad.