Mae diwydiant ceir gwledydd Prydain yn pledio unwaith eto ar y Llywodraeth i sicrhau cytundeb Brexit wrth i’r gyfradd gweithgynhyrchu ddisgyn am y deuddegfed mis.

Yn ôl y Gymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron mae allbwn y diwydiant wedi gostwng 15.5% ym mis Mai eleni, o gymharu â blwyddyn yn ôl.

Cafodd 21,239 yn llai o geir eu hadeiladu mewn ffatris yng ngwledydd Prydain, gyda’r galw gan gwsmeriaid yma ac o dramor wedi disgyn.

“Cytundeb Brexit cyflym”

“Mae deuddeng mis o ddirywio yn olynol mewn gweithgynhyrchu ceir yng ngwledydd Prydain yn bryder difrifol ac yn tanlinellu eto bwysigrwydd sicrhau cytundeb Brexit yn gyflym,” meddai Mike Hawes, Prif Weithredwr Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron

“Nid yw’r ansefydlogrwydd gwleidyddol parhaus a’r ansicrwydd ynghylch ein perthynas â masnach dramor yn y dyfodol, yn enwedig gydag Ewrop, yn helpu.

“Tydi Brexit heb gytundeb ddim yn opsiwn,” ychwanegodd.