Mae’r Swyddfa Dreth wedi dweud ei fod yn barod i fynd ar drywydd honiadau o wyngalchu arian ac osgoi treth ymhlith pobol gyfoethog a phwerus yn dilyn rhyddhau miliynau o ddogfennau cyfrinachol i’r wasg.

Mae’r debyg bod ASau o’r Deyrnas Unedig ymysg y llu o wleidyddion o bob cwr o’r byd sydd berchen ar gwmnïau tramor cyfrinachol i symud eu harian er mwyn twyllo’r system dreth a gwyngalchu arian.

Daw’r honiadau ar ôl i fwy na 11 miliwn o ddogfennau y cwmni cyfreithiol o Panama, Mossack Fonseca, gael eu rhyddhau yn gyfrinachol i’r wasg.

Cafodd y wybodaeth ei anfon i’r papur newydd Almaeneg, Sueddeutsche Zeitung, ac mae hefyd wedi cael ei rannu ymysg aelodau Consortiwm Rhyngwladol y Newyddiadurwyr Ymchwil (ICIJ), gan gynnwys papur newydd y Guardian a rhaglen Panorama.

Mae adroddiadau bod chwe Arglwydd, tri cyn Aelod Seneddol Torïaidd a “dwsinau” o roddwyr pleidiau gwleidyddol y DU ymysg yr ugeiniau o wleidyddion ar draws y byd sydd wedi cael eu henwi trwy’r dogfennau.

Tad David Cameron yn un o’r enwau?

Mae adroddiadau hefyd bod diweddar dad y Prif Weinidog David Cameron ymhlith yr enwau.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod eisiau mynd i’r afael ag “arian budr” ac mae’r Llywodraeth wedi pasio deddf sy’n orfodi pob cwmni Prydeinig i ddatgelu pwy sydd berchen ar y cwmni ac sy’n elwa o’u gweithgareddau.

Ond mae’n wynebu galwadau cynyddol i gynyddu’r pwysau ar diriogaethau tramor y DU, sy’n hafanau treth, i fod yr un mor dryloyw.

Ymhlith y datgeliadau sydd wedi cael eu hadrodd hyd yma mae honiad bod cylch gwyngalchu arian gwerth £1.4 biliwn yn cael ei redeg gan fanc Rwsia sydd â chysylltiad agos â’r Arlywydd Vladimir Putin a’i ffrindiau.

230 o unigolion

Mae eraill sydd wedi cael eu dal yn cynnwys Prif Weinidog Gwlad yr Iâ Sigmundur Gunnlaugsson sy’n wynebu galwadau iddo ymddiswyddo dros honiadau bod ganddo fuddiant heb ei ddatgan mewn banciau yn ei wlad.

Yn Tsieina, meddai’r Guardian bod teuluoedd o leiaf wyth cyn aelod ac aelodau presennol y Politburo wedi cuddio eu cyfoeth dramor.

Ac mae 23 o unigolion oedd a sancsiynau yn eu herbyn am gefnogi cyfundrefnau Gogledd Korea, Zimbabwe, Rwsia, wedi bod yn gleientiaid i Mossack Fonseca.