Mae cwmni Cadwyn yn dweud nad ydyn nhw “erioed wedi profi dim byd tebyg”, ar ôl iddyn nhw werthu 7,000 o hetiau bwced ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae tîm pêl-droed Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 o flynyddoedd ac mae Sioned Elin, cyfarwyddwr y cwmni, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi “fel bod pawb yn sylweddoli bod hwn yn ddigwyddiad hanesyddol a’u bod nhw eisiau dathlu’u bod nhw’n Gymry”.

“Mae rhyw deimlad arbennig yn ystod y pythefnos diwethaf yma,” meddai.

“Nid ydym erioed wedi profi dim byd tebyg.

“Rwy’n gweld llwyth o bobol yn cerdded heibio nawr yn gwisgo’r hetiau.”

Mae’r hetiau’n uno cefnogwyr y Wal Goch, meddai, gan ychwanegu bod hynny i’w weld yn glir yn Qatar ar ddechrau’r twrnament ac ers hynny.

“Roedd o fel môr o hetiau bwced,” meddai.

“Mae o’r un peth efo pobol sydd ’nôl yng Nghymru sydd yn edrych ar y gemau mewn tafarnau neu mewn fan zones.

“Maen nhw i gyd eisiau gwisgo het bwced.

“Rwy’ wedi gweld y bwrlwm rhyfedda yn Abertawe.

“Mae pobol yn dod mewn a gweld baner ‘Yma o Hyd’ gyda ni, ac mae pobol yn dechrau canu ‘Yma o Hyd’ wrth ddod mewn i’r siop. Mae pobol ddi-Gymraeg yn dweud bo nhw wedi dysgu’r geiriau.

“Mae yna falchder mawr mewn Cymreictod dwi’n meddwl.”

Torf yn disgwyl am yr hetiau

Mae gweithwyr siop Cadwyn wedi bod yn dod i’r gwaith gan weld torf o bobol yn disgwyl amdanyn nhw i brynu’r hetiau.

“Roeddwn yn cyrraedd bore yma ac roedd pobol yn ciwio tu allan eisiau hetiau bwced ar gyfer y gêm,” meddai Sioned Elin wedyn.

“Mae Hedd Gwynfor [sydd hefyd yn gyfarwyddwr y cwmni] yn amcangyfri bo ni wedi gwerthu tua 7,000 rhwng popeth.

“Mae hi wedi mynd yn wyllt oherwydd mae gyda ti’r cefnogwyr pêl-droed pybyr sy’n mynd am yr hetiau ‘Spirit of 58’ oherwydd rydym wedi bod yn ffodus iawn i gydweithio gyda Tim Williams o ‘Spirit of 58’.

“Rydym wedi stocio rhywfaint o’i hetiau bwced fo.

“Mae pobol eraill sydd efallai yn ymddiddori ym mhêl-droed Cymru am y tro cyntaf yn mynd am hetiau bwced ychydig yn rhatach.

“Tim Williams o Spirit of 58 sydd wedi dechrau’r traddodiad o wisgo het bwced mewn gemau pêl-droed.

“Fo ddaru ddod allan efo’r het bwced cyntaf yn 2010.

“Diolch i’w gwmni o, mae o’n raddol wedi bod yn tyfu dros y blynyddoedd.

“Erbyn hyn, mae het bwced yn un o’r prif bethau rydych yn cysylltu efo cefnogwyr pêl-droed Cymru.

“Mae gennym ni siop dros dro yn y Quadrant yn Abertawe.

“Mae yna lwyth o bobol wedi bod yn dod i brynu nhw yn fan’na.

“Rydym hefyd yn gwerthu ar lein ar ein gwefan ein hunain.

“Mae’r gêm yn cael ei dangos mewn ysgolion bore yma felly mae mamau a thadau wedi bod yn dod mewn i brynu hetiau i’w plant achos mae’r plant yn cael ei hannog i wisgo’r het bwced i’r ysgol.

“Mae fan park yn Abertawe ym Mharc Singleton. Roedd hwnnw ar agor nos Lun felly roedd pobol eisiau hetiau i fynd i fan’na ac roedd awyrgylch arbennig yn y fan zone yno.

“Mae llawer o bobol yn dod mewn i brynu nhw i fynd i’r gwaith oherwydd mae llawer o bobol yn gwylio’r gêm yn y gwaith.

“Rydym wedi gorfod cael mwy o staff i weithio yn y swyddfa i anfon yr hol archebion allan. Mae gennym ni ddau berson yn y siop drwy’r amser.”

Cwpan y Byd cyn y Nadolig

Gyda Chwpan y Byd mor agos at y Nadolig, sut mae ymdopi â’r ddau achlysur ar yr un pryd?

“Nid ydym wedi dechrau meddwl am y Nadolig eto,” meddai Sioned Elin wedyn.

“Mae pobol naill ai yn prynu het neu grys T.

“Rydym yn gwerthu crysau T Cowbois a Shwl di Mwl hefyd.

“Mae rheini’n gwerthu’n dda.

“Mae pobol eisiau cael sloganau Cymraeg i edrych ar y pêl-droed hefyd.”

Mae het bwced coch, gwyrdd a gwyn ar werth am £9, a het bwced yn y lliwiau gwreiddiol – coch, gwyrdd a melyn – yn costio £10.

£18.50 yw pris het bwced Spirit of 58.