Mae pryder y bydd tafarndai’n gorfod cau wrth i gostau ynni godi gymaint â 300%.

Mae arweinwyr chwech o fragdai mwyaf y Deyrnas Unedig wedi galw am “ymyrraeth ar unwaith” gan Lywodraeth San Steffan ar filiau ynni y gaeaf hwn, ac mae tafarndai yng Nghymru’n teimlo’r ergyd hefyd ac yn galw am gymorth.

Dywedodd arweinwyr y bragdai, sy’n berchen ar 47,000 o dafarndai gyda’i gilydd, fod tenantiaid eisoes yn rhoi rhybudd gan nad ydyn nhw’n gallu ymdopi â’r biliau.

Mewn llythyr agored i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae perchnogion JW Lees, Carlsberg Marston’s, Admiral Taverns, Drake & Morgan, Greene King a Bragdy St Austell wedi galw am ymyrraeth frys, gan gynnwys pecyn cymorth a chap ar bris ynni i fusnesau.

Biliau’n dyblu i £100,000

Mae tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wedi gweld eu biliau ynni’n dyblu eleni, ac mae disgwyl iddyn nhw godi eto ar ôl i’w cytundeb ynni presennol ddod i ben.

“Rydan ni’n talu £100,000 yn fan hyn rŵan, a fydd o’n £200,000 flwyddyn nesaf,” meddai’r perchennog, John Evans, wrth golwg360.

“Maen nhw’n codi’n aruthrol.

“Rydan ni’n trio gweithio allan be fydd rhaid i ni wneud. Rydan ni am gau rhai dyddiau a lleihau’r oriau rydan ni ar agor.

“Ond mae’r bragdy wedi sôn bore ’ma eu bod nhw am godi prisiau cwrw eto.”

Mae John yn teimlo y byddai gostwng Treth ar Werth (VAT) i’r lefel a oedd yn ystod Covid o fudd mawr i dafarndai.

“Mae pawb yn poeni. Os wyt ti adref mewn tŷ ti’n poeni.

“Ond pa bynnag biliau sydd gen ti adref, maen nhw’n ddeg gwaith yn fwy mewn tafarndai.

“Mae o’n hollol ddibynnol ar be wnaiff y llywodraeth yn ystod yr wythnosau nesaf yma.

“Ond dw i’n gweld llawer o dafarndai yn cau.”

‘Dim golau ar ddiwedd y twnel’

Un arall sy’n poeni ydy perchennog Yr Eagles yn Llanuwchllyn, Eleri Pugh, sydd wedi gweld gwahaniaeth o £400 o fewn mis.

“Mae o’n teimlo fel dydych chi ddim yng ngofal eich busnes eich hun ddim mwy,” meddai wrth golwg360.

“Mae rhywun yn ofn gweld invoice.

“Mae o’n teimlo fel bod yna ddim golau ar ddiwedd y twnnel.

Yn ymwybodol bod y cynnydd mewn costau ynni yn taro pawb, mae Eleri Pugh yn rhagweld y bydd llai’n ymweld â’r dafarn.

“Rydan ni’n cyfri fel rhyw fath o luxury.

“Y peth olaf mae pobol am feddwl gwneud ar hyn o bryd ydy mynd allan am bryd o fwyd.

“Mae’n rhaid meddwl am fwydo teulu a phopeth yn gyntaf.”

Hyd yn hyn mae’r tafarn wedi cwtogi eu bwydlen er mwyn paratoi bwyd sydd yn rhatach i’w brynu, ond maen nhw hefyd yn ystyried cwtogi eu horiau a chau ar rai dyddiau.

“Bydd rhaid i ni feddwl am hyn cyn Tachwedd a Rhagfyr achos adeg hynny dw i’n meddwl gwnaiff hyn taro ni go iawn,” meddai Eleri Pugh.

“Mae pawb yn meddwl am y Nadolig ar ben popeth arall. A byddwn ni’n gweld llai yn dod allan.

“Ond mae’n rhaid i ni dal i fynd a gobeithio bod golau ar ddiwedd y twnnel.”