Mae gwefan newyddion Cornwall Live wedi datgelu maint y broblem ail gartrefi yng Nghernyw a’i effaith ar agweddau eraill ar fywyd trigolion lleol.

Fe fu Porth Iâ yn gyrchfan poblogaidd ymhlith twristiaid ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae’r niferoedd cynyddol o bobol sy’n heidio yno’n gwneud bywyd yn anodd i drigolion ac i dwristiaid fel ei gilydd.

Ar gyfartaledd, mae twristiaid yn gwario £85m y flwyddyn yn y dref, gyda mwy na 540,000 o ymwelwyr undydd a thros 220,000 yn aros yno am wyliau, ac yn ôl amcangyfrifon, mae’r diwydiant twristiaeth wedi creu oddeutu 2,800 o swyddi lleol – bron i chwarter poblogaeth y dref.

Ond gyda thwristiaeth yn mynd o nerth i nerth, mae’n creu problemau i bobol leol sydd bellach yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai gan fod cryn dipyn o’r stoc dai fach yn mynd yn llety gwyliau neu’n ail gartrefi.

“Ar adegau, mae pobol yn y dref yn teimlo eu bod nhw’n gweithredu parc antur,” meddai Stefan Harkon, un o drigolion Porth Iâ fu’n weithiwr bad achub am flynyddoedd ac yn un o’r ymgyrchwyr tros barc sglefrio lleol.

“Rydyn ni’n gweithio mewn ardal ond yn methu byw ynddi.”

Mae’n poeni bod obsesiwn Cernyw â thwristiaeth yn gwthio niferoedd cynyddol o bobol allan o’r ardal wrth iddyn nhw fethu â dod o hyd i gartrefi a swyddi.

“Mae angen swyddi o safon a mwy o dai fforddiadwy arnom,” meddai.

“Mae angen i ni fuddsoddi yn ein pobol ifanc a’u dyfodol sut bynnag allwn ni.

“Mae angen iddyn nhw deimlo perchnogaeth o’u tref oherwydd os dydyn nhw ddim yn teimlo bod y gymuned lle maen nhw’n byw yn eu gwerthfawrogi nhw, fyddwn ni ddim ond yn gweld parhad y cylch rydyn ni ynddo a bydd y brain-drain yn parhau.”

Cylch dieflig

Caiff sylwadau Stefan Harkon eu hategu gan un arall o drigolion Cernyw, Camilla Dixon, cyd-sylfaenydd yr ymgyrch First Not Second Homes.

Yn aml iawn, mae pobol leol yn byw’n ddiarffordd, ymhell o gyfoeth perchnogion ail gartrefi sy’n mwynhau’r pleser o fyw yn eiddo mwyaf crand yr ardal.

“Mae gennym ni dref lle mae’r bobol gyfoethog yn dod ar wyliau, lle mewn rhai rhannau o Borth Iâ, mae mwy na thraean o blant yn byw mewn tlodi,” meddai.

“Mae’n cael effaith andwyol.

“Fe wnaethon ni leihau ein stoc o dai cymdeithasol pan gawson nhw eu gwerthu yn y 1980au.

“Oherwydd bod gwerth tir wedi codi, mae datblygwyr wedi bod yn bachu tir ac yn bancio tir er mwyn gwneud mwy o arian.

“Mae’n golygu bod datblygiadau tai cymdeithasol go iawn yn cael eu prisio allan,” meddai wedyn, gan ychwanegu bod y pandemig wedi gweld mwy o bobol nag erioed yn troi eu heiddo’n llety gwyliau neu’n ail gartrefi, a nifer sylweddol o bobol yn cael eu troi allan am fod landlordiaid eisiau buddsoddiad hirdymor.

Ail gartrefi Porth Iâ

Yn 2016, fe wnaeth trigolion Porth Iâ bleidleisio o blaid gwahardd tai newydd rhag bod yn ail gartrefi, gydag 83% o blaid y cynnig.

£440,000 yw pris cyfartalog eiddo yn y dref erbyn hyn, sydd fwy nag 17 gwaith cyflog blynyddol rhywun yng Nghernyw ar gyfartaledd.

Gall rhai tai yn yr harbwr gostio rhwng £700,000 ac £1m, tra bod prinder tai i’w rhentu.

Yn 2021, roedd mwy na 1,000 o gartrefi gwyliau ar gael i bob un tŷ i’w rentu i fyw ynddo, tra bod eiddo hefyd wedi cael eu dymchwel i greu lle ar gyfer mwy o ail gartrefi gwerth £6m neu £7m sy’n cael eu rhoi ar rent am hyd at £7,000 yr wythnos.

Yn ôl Andrew George, y cyn-Aelod Seneddol Rhyddfrydol yn y dref, mae Porth Iâ bellach yn “rhywle i gysgu gydag ychydig iawn o deuluoedd lleol yn byw yno”.

Yn sgil y pryderon, mae Cyngor Tref Porth Iâ yn ymchwilio i’r sefyllfa ond yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i fynd i’r afael â’r broblem, ac yn galw am gymorth gan Gyngor Cernyw i gyflwyno mesurau i leddfu’r holl broblemau.

Eiddo ar werth yn Heyl

Yn ardal Heyl, mae un caban traeth â dwy ystafell wely, cegin, lolfa ac ystafell ymolchi allanol – ond heb dŷ bach – ar werth am gyn lleied â £325,000.

Does dim cyfyngiadau ar yr eiddo o ran preswyliaid, sy’n golygu bod modd i rywun fyw yno drwy gydol y flwyddyn a bod hynny’n addas ar gyfer perchnogion ail gartrefi.

Mae’n cael ei hysbysebu fel eiddo lle mae “cyfle i ailddatblygu a moderneiddio (yn unol â’r caniatâd priodol)”.

Bydd yr eiddo ar gael i’w brynu mewn ocsiwn ar Fai 26.

Ffermdy eisiau gosod carafanau

Fel nifer o fusnesau’r ardal, mae fferm ger Pennsans yn chwilio am lety i’w gweithwyr, sy’n casglu cennin Pedr.

Er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, mae’r fferm yn awyddus i godi 40 o garafanau fel bod modd iddyn nhw fyw ar y safle.

Mae nifer fawr o fusnesau’r ardal yn ei chael hi’n anodd recriwtio gweithwyr tymhorol, a hynny yn sgil cyfuniad o Brexit, polisïau’n ymwneud â gweithwyr o dramor a diffyg tai.

Ar ôl i’r fferm ehangu i gael 820 erw yn rhagor o dir, roedd angen iddyn nhw dyfu 100m yn rhagor o flodau, sy’n golygu cynnydd o 33% yn y gweithlu presennol ond mae hyn yn golygu bod rhaid dod o hyd i lety iddyn nhw.

Mae rhai busnesau’n ystyried rhoi’r gorau iddi os nad oes modd iddyn nhw ddatrys y sefyllfa.

Roedd yr NFU yn galw y llynedd am ymestyn cynllun amaeth i helpu gweithwyr ar ôl Brexit, a fyddai’n galluogi mwy na’r 30,000 presennol o weithwyr o dramor i weithio ym myd amaeth, wrth iddyn nhw rybuddio nad yw pobol leol eisiau’r gwaith er bod modd ennill mwy na dwywaith yr isafswm cyflog.

O ganlyniad i ddiffyg gweithwyr i gasglu’r blodau, maen nhw’n pydru ac mae’r fferm yn colli cannoedd o filoedd o bunnoedd.

Un enghraifft yn unig yw hyn o broblem lawer ehangach.