Gyda Chynhadledd Llafur Cymru yn dechrau yn Llandudno heddiw (dydd Gwener, 11 Mawrth) mae Undeb y Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (Usdaw) yn galw am gynllun adfer manwerthu er mwyn rhoi hwb i siopau yng Nghymru.

Mae’r undeb wedi anfon dirprwyaeth o aelodau i’r gynhadledd er mwyn lleisio ei gofidion am yr “argyfwng” sy’n wynebu’r diwydiant manwerthu yng Nghymru.

Maent yn rhybuddio bod “un o bob pum siop yng Nghymru bellach yn wag” ac nad yw swyddi gweithwyr yn ddiogel.

Dywedodd Paddy Lillis, Ysgrifennydd Cyffredinol Usdaw: “Mae manwerthu wrth galon ein cymunedau.

“Nid yn unig y mae’n darparu 120,000 o swyddi manwerthu ledled Cymru, mae’n gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol sydd wrth wraidd ein cymunedau ac yn helpu i atal unigrwydd cymdeithasol.

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i bobl ac mae manwerthu wedi bod yn un o’r diwydiannau a gafodd eu taro galetaf gan argyfwng y coronafeirws.

“Mae bron i un o bob pum siop yng Nghymru bellach yn wag.

“Mae gweithwyr manwerthu yn teimlo nad yw eu swyddi’n ddiogel, maent yn ei chael hi’n anodd ar gyflogau isel ac mae costau byw yn effeithio’n sylweddol arnynt.”

“Cynllun adfer brys”

“Mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu llawer o’r anawsterau sy’n wynebu manwerthu ac mae angen cynllun adfer ar frys i sicrhau bod ein strydoedd mawr yn goroesi’r argyfwng hwn.

“Rydym yn croesawu’r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd, ond rydym yn cydnabod bod materion strwythurol allweddol i fynd i’r afael â hwy i gefnogi adferiad y sector manwerthu.

“Fel cam nesaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag undebau a busnesau i ddatblygu cynllun adfer brys ar gyfer manwerthu, gan edrych ar y pwysau ehangach sy’n wynebu’r sector fel ardrethi busnes, rhenti a threfniadau prydlesu.

“Dylai’r cynllun hwn hefyd gynnwys cefnogaeth barhaus i awdurdodau lleol allu buddsoddi yn eu strydoedd mawr.

“Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag undebau i annog cyflogwyr manwerthu i weithredu Cyflog Byw go iawn a sicrhau cytundebau gydag oriau penodol.

“Mae angen gwaith diogel sy’n talu’n dda ar weithwyr manwerthu. Ar ôl anhrefn y pandemig, mae gennym gyfle nawr i adeiladu’n ôl yn gryfach i weithwyr ledled Cymru.”