Gallai ffioedd ychwanegol gan fanc HSBC ar gyfrifon sefydliadau elusennol “fygwth eu gallu i ailsefydlu” wedi Covid, meddai Aelod Seneddol Ceredigion.

Yn ôl Ben Lake, gallai’r newidiadau “gael effaith andwyol a phellgyrhaeddol ar nifer o fudiadau ac elusennau”.

Mae HSBC wedi cadarnhau eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno tâl o £5 y mis fesul cyfrif ar sefydliadau cymunedol, tâl o 40c y siec, a ffi o 1.5% i gael newid dros y cownter.

Dangosodd canlyniadau Arolwg Bancio Cymunedol yr Aelod Seneddol bod yna ddiffyg dealltwriaeth ymysg banciau am yr heriau sy’n wynebu sefydliadau cymunedol.

Mae sefydliadau cymunedol megis papurau bro, Merched y Wawr a Chymdeithas Eisteddfodau Cymru eisoes wedi mynegi pryderon ynghylch cynlluniau HSBC i godi ffioedd.

Yr arolwg

Cymerodd dros 60 o sefydliadau ar draws Ceredigion ran yn yr arolwg, gyda’r canlyniadau’n dangos bod 52% yn dweud y byddai’n well ganddyn nhw gysylltu wyneb yn wyneb â darparwr eu cyfrif banc.

Er gwaethaf hynny, dywedodd 49% o’r rhai atebodd yr arolwg nad yw eu darparwr yn gallu darparu hynny fel dull cyswllt.

Nid oedd gan fwyafrif y rhai atebodd Reolwr Cyfrif dynodedig na chyswllt hysbys yn y banc, chwaith.

Cafodd pryderon ynghylch y ffioedd trafodion misol ar gyfer Cyfrifon Banc Cymunedol HSBC eu codi hefyd.

Yn ogystal, codwyd pryderon bod rhai’n cael anawsterau wrth newid mandadau cyfrifon banc cymunedol, yn enwedig Cynghorau Cymuned.

Mae’r gostyngiad yn lefel y cymorth a’r gwasanaethau wyneb yn wyneb sydd ar gael mewn canghennau lleol hefyd yn destun pryder, yn ôl canlyniadau’r arolwg.

“Eithriadol o anodd”

Dywedodd Ben Lake AS bod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn “eithriadol o anodd i elusennau a sefydliadau cymunedol”.

“Mae’r diffyg cyfle i godi arian a chysylltiad wyneb yn wyneb wedi ei gwneud yn anodd iawn i rai o’r sefydliadau hyn barhau,” meddai Ben Lake, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Geredigion.

“Mae canlyniadau’r Arolwg Bancio Cymunedol yn dangos bod llawer o’r cymdeithasau, elusennau a sefydliadau trydydd sector sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd, yn gorfod delio â ffioedd uwch i redeg eu cyfrifon, mwy o faterion diogelwch a phroblemau llif arian, ac mae hyn i gyd yn deillio o ddiffyg gwasanaethau bancio lleol.

“Yn benodol, credaf y gallai’r newidiadau y mae rhai banciau yn bwriadu’u cyflwyno gael effaith andwyol a phellgyrhaeddol ar nifer o fudiadau ac elusennau yng Ngheredigion. Gallai’r ffioedd ychwanegol hyn fygwth eu gallu i ailsefydlu eu hunain ar ôl Covid.

“Rwyf yn bwriadu cwrdd â holl brif fanciau’r stryd fawr yn ystod yr wythnosau nesaf i rannu a thrafod canlyniadau fy Arolwg Bancio Cymunedol a byddaf hefyd yn codi’r materion hyn yn y Senedd cyn gynted â phosibl.”

Newidiadau i gyfrifon HSBC yn “newyddion drwg” i bapurau bro

Cadi Dafydd

Codi tâl bancio ar sefydliadau di-elw ac elusennau am “lorio” rhai cymdeithasau gwirfoddol