Mae cigyddion wedi cael blwyddyn arbennig o dda, yn ôl ystadegau newydd gan Kantar, cwmni ymchwil i’r farchnad.

Dangosa’r data bod 630,000 yn fwy o aelwydydd yn ymweld â siopau cig annibynnol ledled y Deyrnas Unedig dros y deuddeg mis diwethaf, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Yn ôl dadansoddiad Kantar, mae pobol wedi gwario bron i 50% yn fwy ar bob taith i’w siop gigydd nag mewn siopau eraill wrth brynu cig.

“Lot mwy o gefnogaeth”

“Rydym ni’n cael lot mwy o gefnogaeth wan, lot o bobol yn dod yn lleol,” meddai Owain Owen o siop gig O.G.Owen & Son yng Nghaernarfon.

“Rydym ni wedi newid, rydym ni’n danfon i dai hefyd. Mae hynny wedi gweithio, yn enwedig gyda chenhedlaeth ieuengach.

“Maen nhw’n ordro drwy Facebook, neu ar-lein, neu’n ffonio ac rydym ni’n danfon i’w tai nhw. Mae hwnnw wedi bod yn boblogaidd iawn yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Maen nhw’n gwsmeriaid newydd â dweud y gwir, ella pobol nad oedd yn defnyddio’r siop bwtchar leol o’r blaen,” ychwanega Owain Owen.

“Fe wnaeth pethau ddechrau mis Mawrth diwethaf, doedd yna neb yn mynd allan o tŷ. Roedd pobol ofn mynd i archfarchnadoedd, felly roedden nhw’n ffonio ac yn cael delivery.

“Mae’r cynllun wedi parhau, ac mae’r peth wedi tyfu bob wythnos. Mae yna fwy a mwy o bobol newydd, mae’n cael knock-on effect. Rydym ni wedi tyfu’n uffernol o dda fel yna,” meddai wrth golwg360.

“Fyswn i’n licio meddwl y gwneith hyn gario ymlaen. Ella fydd pethau’n arafu dipyn pan mae bwytai yn agor. Ar hyn o bryd does yna neb yn mynd allan i wario mewn bwytai.

“Mae pobol yn joio, ac maen nhw’n gweld rhaglenni am goginio ar teledu.

“Tra bod bwytai wedi cau, maen nhw wedi sylwi eu bod nhw’n gallu prynu o siop leol, gwneud o’i hunan, a bod o gystal, os nad gwell. Ac maen nhw’n joio gwneud y bwyd.”

“Gwerthfawrogi ansawdd a gwasanaeth” siopau lleol

Roedd arolwg diweddar gan Hybu Cig Cymru (HCC) hefyd yn rhoi darlun cadarnhaol o siopau cigydd.

Mewn arolwg o 2,000 o bobol, daeth i’r amlwg mai ansawdd y cynnyrch mewn siopau cig oedd y prif gymhelliad i 50% o’r ymatebwyr ymweld â’r siopau, a dywedodd 38% eu bod nhw am gefnogi busnesau lleol.

“Trwy gydol y 12 mis diwethaf, rydym wedi clywed sut mae cwsmeriaid wedi dibynnu ar eu cigydd lleol am gyflenwadau bwyd, gyda llawer o gigyddion yn addasu eu busnesau ac yn cynnig dosbarthu cig i’w cwsmeriaid,” meddai Kirstie Jones, Swyddog Datblygu’r Farchnad i Hybu Cig Cymru.

“Mae’n galonogol gweld hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau newydd hyn, gan ddangos fod pobl yn wir gwerthfawrogi’r ansawdd a’r gwasanaeth sy’n cael eu cynnig gan eu siopau cigydd lleol.”

“Er mwyn annog a gwobrwyo pobl sy’n ymroddi i ddefnyddio siopau cigydd, mae HCC wedi creu llyfrynnau a chylchgronau o ryseitiau unigryw. Bydd llyfrynnau ryseitiau newydd ar gyfer y gwanwyn ar gael gan aelodau Clwb Cigyddion Cymru ledled y wlad yn ystod yr wythnosau nesaf,” ychwanegodd Kirstie.

“Bydd y rhain yn cynnwys dewis eang o syniadau ar gyfer prydau bwyd gwahanol sy’n addas i’r teulu cyfan – ewch i’ch siop gigydd leol i gael un.”