Y llynedd, daeth y newyddion bod Dafydd Owen, un o sylfaenwyr Gwasg Dwyfor ym Mhenygroes, yn ymddeol ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth.

Ei fab, Rhun Dafydd, a’r dylunydd graffeg lleol, Karl Huntly, sydd wedi cymryd yr awenau, a hynny ar drothwy blwyddyn gythryblus, yn sgil y pandemig.

Mae Gwasg Dwyfor yn wasg uchel ei pharch, sydd wedi cyhoeddi sawl llyfr nodedig yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni’r Eisteddfod Genedlaethol am dros 30 mlynedd.

Mewn sgwrs gyda golwg360, bu Karl Huntly yn trafod y modd y mae’r cwmni wedi addasu yn dilyn ymddeoliad y cyn-gyfarwyddwr, effaith y pandemig, bygythiad parhaus y chwyldro digidol, a dyfodol cyhoeddiadau print.

“Rydyn ni wedi cael lot o hwyl!” 

Cafodd Gwasg Dwyfor ei sefydlu yn 1980, gan Dafydd Owen, Maldwyn Peris a Alwyn Ellis ac yn ddiweddarach, ymunodd Karl Huntly y cwmni fel hogyn ifanc ar drothwy ei yrfa.

“Nes i ddechrau gweithio yma yn 1993 fel prentis,” meddai Karl, “a dwi’r last man standing rwan!

“Mae o’n waith diddorol, ti’n cael gwneud cymaint o bethau gwahanol ac mae o wedi bod yn grêt dros y blynyddoedd – rydyn ni wedi cael lot o hwyl!”

Eglura nad oedd y penderfyniad i gymryd yr awenau’n un hawdd yn dilyn ymddeoliad Dafydd llynedd.

“Pan fu Dafydd benderfynu ymddeol, roedd fy nghalon i’n sincio ac oni’n meddwl: ‘Be rydan ni’n mynd i wneud?!’

“Felly dyma Rhun a fi’n trafod hefo’n gilydd a phenderfynu, nawn ni drio cario ymlaen ond ar scale llai.

“Roedd yr expertise ganddon ni ac roedd hi’n mynd i fod yn anodd ffeindio gwaith yn ystod covid, felly dyma ni’n meddwl: lets give it a go! 

“Rydyn ni wedi bod reit lwcus,” meddai wrth drafod y flwyddyn ddiwethaf, “rydan ni wedi cael dipyn o waith i mewn ac wedi cael lot o help gan Dafydd, wrth gwrs!”

Jabas

Disgrifiodd y dylunydd y modd mae’r cwmni wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd, yn sgil dyfodiad y cyfryngau newydd.

“Cyn i fi ddechrau, yn yr 1980a’u roedden nhw’n gwneud dipyn go lew o lyfrau – does gen i ddim syniad faint o lyfrau i gyd,” meddai.

“Ond dim gymaint wedyn…”

Dywedodd bod llyfrau Jabas, gafodd eu cyhoeddi yn y 90a’u cynnar a’u troi yn gyfres deledu boblogaidd ar S4C, ymhlith cyhoeddiadau fwyaf poblogaidd yn hanes y cwmni.

Dros gyfnod o 30 mlynedd, Gwasg Dwyfor oedd yn gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chreu prosbectws y Brifysgol ym Mangor.

“Mae’r rheini i gyd wedi mynd at gwmnïau eraill rŵan,” eglura Karl Huntley, “ond rydyn ni wedi addasu ar scale bach ar gyfer y bobl leol.

“Rydyn ni dal yn gwneud llyfrau, wrth gwrs, ond da ni’n gwneud posteri, leaflets, magazine fel un ‘The Snowdon Ranger’ – mae hwnnw ganddo ni ers dros ugain mlynedd.

“Mae’r cwsmeriaid sydd ganddo ni wedi bod hefo ni ers blynyddoedd,” meddai, “ac maen nhw’n dal i ddod yn ôl.”

Er ei fod wedi gweld shifft oddi wrth gyfryngau print traddodiadol dros y blynyddoedd – dywed nad yw hynny wedi ei ddisodli’n llwyr gan y we a thechnoleg newydd.

“Mae pobol yn dal i licio cael llyfr yn eu llaw,” meddai, “ond y peth ydi am fod yna ddim gymaint o runs ar lyfrau rŵan, mae hi’n ddrytach i’w hargraffu nhw wrth gwrs.

“Does yna ddim gymaint o alw am lyfrau ac anaml fyswn ni’n gwneud llyfrau rŵan.”

Y pandemig a phobl leol

Eglurodd bod y pandemig wedi cael cryn effaith ar y cwmni, wrth i’r galw am fwydlenni i gaffis a bwytai lleol a phosteri i hyrwyddo digwyddiadau cymunedol leihau.

“Dydi’r ffon ddim yn canu gymaint,” meddai, “dydi ddim mor brysur – mae hi dipyn bach yn ddiflas ond mae’n rhaid cario ymlaen a gwneud ein gorau.”

Er hynny, dywedodd mai un ffordd newydd mae’r cwmni wedi creu incwm dros y cyfnod yw drwy greu posteri ac arwyddion i ysbytai, ysgolion a chwmnïau lleol yn hyrwyddo rheolau glendid a phellter cymdeithasol.

Teimlai Karl Huntley bod y gefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn hanfodol i sicrhau goroesiad y cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae o mor bwysig,” meddai, “dwi’n cael pobol yn dod yma sydd wedi cael cardiau busnes oddi ar y we, er enghraifft ond wedi ffeindio nhw cymaint drytach.

“Mae pobol yn assumio bod bob dim ar y we yn rhatach nag be da ni’n gynnig ond yn y long run dydi o ddim – rydyn ni’n cynnig yr un gwasanaeth.

“Rydyn ni angen mwy o bobl leol i ddod ata ni – i ni supportio ein gilydd,” meddai.

“Dwi’n falch bod ni’n trïo cario hyn ymlaen,” ychwanegodd, “ond mae o’n dipyn o gyfrifoldeb – cwmni sydd wedi’i sefydlu ers mor hir, ti isio cadw fo i fynd.

“… No pressure!”