Mae bron i 100 o swyddi yn y fantol mewn ffatri yn Llanelli sy’n gwneud cabanau awyrennau teithwyr.

Dywedodd cwmni AIM Altitude ei fod yn ymgynghori â 99 o weithwyr sy’n gweithio ar ei safle yn Nafen ger Llanelli.

Mae’r cwmni hefyd wedi dweud bod fod cau’r ffatri yn opsiwn sy’n cael ei ystyried.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi creu heriau digynsail a mawr i’r diwydiant awyrennau ac, yn unol â chwmnïau eraill yn y sector awyrofod, mae’r sefyllfa wedi effeithio’n andwyol ar gynhyrchiant AIM Altitude,” meddai’r cwmni.

“Yn anffodus, mae angen lleihau’r gweithlu i adlewyrchu’r gostyngiad yn y galw a mynd i’r afael â’r sylfaen costau.”

Y diwydiant awyrennau ar ei liniau

Mae’r diwydiant awyrennau wedi dioddef yn eithriadol yn sgil pandemig y coronafeirws.

Bythefnos yn ôl, pleidleisiodd gweithwyr Airbus am wythnos waith fyrrach er mwyn achub swyddi.

Ar y pryd, dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol Unite yng Nghymru: “Er nad yw’n ddelfrydol bod ein haelodau wedi gorfod ymrwymo i wythnos waith fyrrach, dylid ystyried y penderfyniad hwn yng nghyd-destun argyfwng digynsail byd-eang ym maes awyrennau a hedfan.

“Mae’r ateb hwn i’r argyfwng a wynebir gan Airbus yn un y gellid ei ddefnyddio mewn safleoedd gweithgynhyrchu eraill ledled Cymru er mwyn osgoi diswyddiadau ar raddfa fawr.”

“Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â’r cwmni”

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd yr AoS lleol, a’r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Mae’r rhain yn swyddi da ac rwy’n awyddus nad ydynt yn diflannu o’r ardal.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â’r cwmni er mwyn gweld beth y gellid ei wneud i gadw’r swyddi yn Llanelli.”

 

Gweithwyr Airbus yn pleidleisio am wythnos waith fyrrach i achub swyddi

“Mae’r ateb hwn i’r argyfwng a wynebir gan Airbus yn un y gellid ei ddefnyddio mewn safleoedd gweithgynhyrchu eraill ledled Cymru”