Mae’r landlord cymdeithasol Adra wedi lansio academi newydd ar drothwy Wythnos Prentisiaethau Cymru.

Y nod ydi cefnogi mwy na 60 o bobol ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ar draws y gogledd erbyn 2022.

Mae Academi Adra yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ac ehangu opsiynau cyflogadwyedd drwy brentisiaethau, lleoliadau gwaith, lleoliadau graddedig a chynlluniau hyfforddi.

Mae’r darparwr tai yn dechrau eu dau leoliad fis yma fel rhan o’r Cynllun Kickstart cenedlaethol, sy’n creu cyfleoedd gwaith i bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd yn derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir.

Maen nhw hefyd wedi cyflogi pedwar prentis newydd o fewn y cwmni gan gynnwys trydanwr, plymiwr a dau baentiwr ac addurnwr o fewn eu tîm Trwsio.

“Cyfle gwych i fi ddatblygu fy sgiliau”

Mae Caleb Khan o Gaernarfon yn astudio ar gyfer Diploma NVQ mewn Gorffeniadau Addurnol a Phaentio Diwydiannol (Adeiladu) yng Ngholeg Llandrillo Menai, tra ei fod yn gweithio fel prentis i Adra.

“Mae Adra wedi rhoi cyfle gwych i fi ddatblygu fy sgiliau fel prentis, gweithio hefo addurnwr a phaentiwr profiadol yn nhai Adra,” meddai.

“Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle yma yn fawr a hoffwn ddiolch i Adra am eu cefnogaeth.”

“Wrth i ni dyfu, rydym eisiau creu cyfleoedd ar gyfer ein pobl, gan ddechrau hefo’n cwsmeriaid,” meddai Elin Williams, Rheolwr Cymuned a Phartneriaethau Adra.

“Trwy Academi Adra, rydym yn ceisio creu cyfleoedd gwaith gyda’n cynlluniau lleoliadau gwaith a’n rhaglenni hyfforddeion, graddedigion a phrentisiaethau, gan weithio hefo’n partneriaid gan dargedu ein cwsmeriaid ar draws gogledd Cymru sy’n wynebu gymaint o heriau ar draws y farchnad swyddi.

“Mae Kickstart yn gynllun gwych ar gyfer ein cwsmeriaid ifanc; gyda chyfyngiadau Covid rydym wedi gorfod arloesi a dod o hyd o ffyrdd newydd i ddarparu cyfleoedd.

“Rydym yn gweithio hefo’n partneriaid i ddarparu cyfleoedd prentisiaethau i weithio tu allan ar ein safleoedd adeiladu, yn ogystal â chefnogi busnesau bach a chanolig eu maint drwy ein gwaith buddsoddi.”