Mae bwyty Medina yn nhref Aberystwyth wedi troi at y cyfryngau cymdeithasol i drafod yr ymosodiadau personol y mae wedi ei derbyn yn sgil cynllun ‘parthau diogel’ Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r cynllun, ble gwelwyd 25 o strydoedd trefi Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, a Chei newydd ar gau i geir, wedi bod yn ddadleuol ers ei darddiad ac wedi hollti barn yn lleol.

Er bod perchennog Medina yn cydnabod mai dyma sydd wedi sicrhau cynhaliaeth ei bwyty yn ystod y cyfnod, mae’n amlwg bod hynny wedi arwain at ddrwgdeimlad ymhlith rhai preswylwyr.

“Sylwadau personol, difrifol”

Mewn neges ar gyfrif Facebook y bwyty, sydd wedi ei leoli ar Stryd y Farchnad yng nghanol tref Aberystwyth, dywedodd:

“Rwy’n gwybod bod y parthau diogel a chau ffyrdd wedi bod yn bwnc dadleuol trwy gydol yr amser gwallgof hwn. Rwyf wedi gwrando ar safbwynt nifer o bobl dros y misoedd diwethaf ac mae gan bawb hawl i’w barn.”

“Yn anffodus yr wythnos hon, mae rhai wedi mynd ati i wneud sylwadau personol, difrïol amdanaf i a fy nheulu ar gyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’r mater.”

“Ar adeg o bryder mawr, mae hyn yn drist a does dim o’i angen.”

Neges ar gyfrif Facebook Medina

“Y lon ydi’r ffactor unigol sydd wedi ein hachub”

Drwy leihau mynediad i gerbydau rhwng 11.00yb hyd at 6.00yp, roedd llawer yn dadlau bod modd sicrhau mwy o le i gerddwyr ymweld yn ddiogel â chanol trefi, gan gynnal pellter cymdeithasol.

Yn y neges, dywedodd perchennog Medina fod y mesurau hyn wedi bod yn hanfodol i sicrhau cynhaliaeth ei busnes:

“Os na fyddwn i wedi gallu gwneud defnydd o’r lon dros y misoedd diwethaf, mi fydda ni ar y brink o collapse wrth fynd mewn i’r Gaeaf, gan wynebu cyfnod clo arall.”

Eglurodd, “y lon ydi’r ffactor unigol sydd wedi ein hachub ac sydd wedi ein galluogi i barhau hyd at flwyddyn nesaf o’leiaf.”

“Fedrwn ni ddim diolch digon i’r cyngor am gydnabod hynny ac am weithredu.”

Neges ar gyfrif Facebook Medina

Y cyngor yn holi barn y cyhoedd ynglŷn â’r cynllun

Yn ystod cyfnod clo byr sydd wrth rym, ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn cau’r ffyrdd yn ddyddiol o fewn y parthau diogel.

Er hynny, mae’r cyngor yn chwilio am adborth ar y cynllun fel bod modd adnabod unrhyw effeithiau cadarnhaol neu bwyntiau dysgu allweddol. Dywedodd y bydd y wybodaeth a gasglwyd o gymorth er mwyn llywio a llunio dyfodol ein canol trefi.