Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei gymeradwyo yn ystod ei araith i aelodau’r blaid Lafur yn Sir Amwythig, wedi iddo addo rhoi terfyn ar ‘statws elusen’ ysgolion preifat.

Byddai hynny yn golygu fod yn rhaid i ysgolion preifat dalu trethi o dan lywodraeth Lafur.

Yn ystod sesiwn holi ac ateb gyda newyddiadurwyr, gofynnwyd i Jeremy Corbyn a fyddai polisi’r gynhadledd i roi terfyn ar statws elusen ysgolion preifat yn ei gwneud hi mewn i faniffesto’r blaid… a’i ateb oedd, ‘arhoswch i weld’. 

“Bydd y maniffesto yn cael ei lansio ychydig yn hwyrach – dydan ni ddim wedii gorffen ei sgwennu fo eto,” meddai arweinydd y Blaid Lafur. 

“Mae’r gynhadledd wedi pasio y bydd rhannau o bolisi’r gynhadledd yn ei gwneud hi i mewn i’r maniffesto.”