Mae cymeriad drygionus Nel yn ei hôl, gyda’r degfed llyfr yn y gyfres, Na, Nel! Help! yn cael ei bwrw i’r byd yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth fory (dydd Iau, Mehefin 13).
Mae’r llyfr diweddaraf yn y gyfres gan Meleri Wyn James yn dilyn Nel a’i ffrindiau a’i chath Mister Fflwff. Fel o’r blaen, mae yma dair stori wedi eu rhannu’n benodau er mwyn gwneud nhw’n haws i’w darllen, a lluniau du a gwyn gan John Lund.
“Mae gan Nel ddychymyg gwyllt a does arni ddim ofn ei ddefnyddio,” meddai Meleri Wyn James.
“Y tro hwn mae draig yn cipio llais Nel ac mae’n mynd ar antur gyffrous i’w gael yn ôl. Yn yr ail stori mae’n gorfod ymdopi â sefyllfa newydd pan mae’n ffeindio bod gan un o’i ffrindiau gorau ffrind newydd arbennig iawn.
“Yn y stori olaf mae’n gobeithio dod yn seren y dyfodol pan mae’n mynd â Mister Fflwff at y fet er mwyn trio bod ar y gyfres realiti, Fetia i! ar S4C.”
Yn fam i ddwy o ferched ei hun, daeth Nel i fod “am fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer llyfrau gwreiddiol i blant rhwng 5 ac 8 mlwydd oed,” meddai Meleri Wyn James wedyn.
“Mae Nel yn Gymraes ac mae’r llyfrau’n cyflwyno hanes, traddodiadau, chwedlau a chaneuon Cymru i blant – yn ogystal â bod yn lot o hwyl gobeithio!”
Daw’r llyfr diweddaraf yn dilyn sioe theatr Na Nel! o gwmpas Cymru i dros 17 o lefydd yn ystod haf 2018.