Trafod yn y tafarn
Annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol yw brwydr newydd yr 21g, yn ôl un a fu’n ymgyrchydd cyson dros addysg Gymraeg yn enwedig yn ardal Abertawe.

“R’yn ni wedi ennill, gallech chi ddweud, y pethau hawdd – y targedau amlwg hanfodol o ran statws, o ran teledu, o ran addysg yn gynyddol,” meddai Heini Gruffydd, swyddog ymchwil cenedlaethol y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.

“Mae’n bryd erbyn hyn i gamu i’r maes cymdeithasol.” meddai swyddog ymchwil cenedlaethol y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg. “Bydden i’n meddwl bod angen canolbwyntio ar weithgareddau chwaraeon, adloniant, tafarnau a chlybiau, y math o lefydd lle mae pobol ifanc yn cymdeithasu.

“A falle bod y cam yna’n mynd i fod yn llawer, llawer mwy anodd na’r cam addysg a dweud y gwir.” meddai gan fynnu mai mudiadau cymdeithasol ddylai fod yn gwneud y gwaith. .

Yn ôl Heini Gruffydd, dyw Cymdeithas yr Iaith ddim yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobol heddiw.

“Maen nhw’n dal i frwydro brwydrau statws a theledu. Wel popeth yn iawn, ond calon pethau heddiw yw’r cyfle i ddefnyddio’r iaith. Allech chi ddweud bod hyd yn oed pwyslais wedi bod, yn ddigon teg ar un adeg, ar raglenni Cymraeg ac yn y blaen a chyfleoedd felly. Ond diar-mi dy’n nhw ddim yn ymwneud gyda bywyd pobol bob dydd.”

Darllenwch weddill yr wrthygl yng nghylchgrawn Golwg, 9 Mehefin