Lily McAllister-Sutton a Rhiannon Shipton (Llun: golwg360)
Mae dwy ferch ysgol yn bwriadu dechrau deiseb yn galw ar ddod â’r arfer o gydadrodd Gweddi’r Arglwydd mewn gwasanaethau ysgol i ben.

Yn ôl Rhiannon Shipton a Lily McAllister-Sutton, sy’n mynd i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, mae angen rhoi stop ar y traddodiad gan nad yw’n berthnasol i ddisgyblion sydd ddim yn grefyddol neu sydd ddim yn dilyn Cristnogaeth.

“Mae’r athrawon yn yr ysgol yn gwneud i ni wneud Gweddi’r Arglwydd ac mae lot o bobol wedi bod yn cwyno am hwn achos maen nhw’n dweud bod rhaid i ni wneud e,” meddai Lily McAllister-Sutton wrth golwg360.

“Dydyn ni ddim yn meddwl bod e’n deg achos mae llawer o bobol yn Fwslemiaid ac yn Anffyddwyr a chrefyddau eraill.

“Roeddwn ni wedi gofyn i’r athrawon pam bod rhaid i ni wneud Gweddi’r Arglwydd a dywedon nhw am fod ni’n ysgol Gristnogol ond doeddwn i ddim yn gwybod hwnna a sai’n meddwl bod pawb yn glir ar be’ ydy’r rheolau.”

Eisiau ‘Munud i Feddwl’ yn lle

Mae’r ddwy ferch 15 oed yn cyfri ei hunain yn Anffyddwyr ac am weld disgyblion mewn gwasanaethau ysgol yn cael ‘Munud i Feddwl’ yn hytrach nag adrodd Gweddi’r Arglwydd.

Yn ôl y ddwy, byddai hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion feddwl am neges y gwasanaeth.

Roedd y ddwy yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd i drafod â chlerc y Pwyllgor Deisebau i sicrhau bod geiriad eu deiseb yn addas ar gyfer ei chyflwyno i Aelodau Cynulliad.

Traddodiad ‘diflas’

Mae’r arferiad o adrodd Gweddi’r Arglwydd yn hen-ffasiwn ac yn ddiflas erbyn hyn, meddai Rhiannon Shipton.

“Fi’n cofio unwaith, roedd rhaid i ni wneud Gweddi’r Arglwydd, roedden nhw wedi gwneud i bawb wneud e ar ôl tri, ond doedd neb wedi gwneud e. Roedd pawb yn dawel,” meddai.

“Dyw’r bobol sydd ddim yn credu mewn Duw ddim yn dweud e, ac mae pobol sydd yn credu mewn Duw ddim yn meddwl bod pwynt dweud e nawr am ei fod e’n tedious.

“Dw i’n cofio unwaith, roedd disgybl wedi gofyn i athrawes pam ein bod ni’n gwneud Gweddi’r Arglwydd, ac roedd hi wedi dweud bod e’n draddodiad.

“Ond mae llawer o bethau wedi bod yn draddodiad fel caethwasiaeth ac mae hwnna erbyn hyn yn erbyn y gyfraith.”