Gwin Malbec o Batagonia (llun: Cymdeithas yr Hoelion Wyth)
Mae criw o aelodau o gymdeithas yr Hoelion Wyth yng ngorllewin Cymru wedi codi tua £5,000 at goffrau Ysgol Gymraeg newydd ym Mhatagonia drwy werthu gwin.

Fe wnaethant gyflwyno’r siec i gadeirydd ymddiriedolwyr Ysgol y Cwm, sef Clare Vaughan, yng ngwesty’r Talbot yn Nhregaron heddiw, Ionawr 9.

Ers rhai wythnosau bellach, mae aelodau’r mudiad wedi llwyddo i werthu 2,500 o boteli o win coch Malbec o Batagonia yng Nghymru.

Esboniodd John Watkin wrth Golwg360, sy’n ysgrifennydd cangen cymdeithas yr Hoelion Wyth Cors Caron iddynt gael y syniad yn dilyn ymweliad rhai o’r aelodau ag Ysgol y Cwm yn Nhrevelin.

“Mi welon ni’r adeilad newydd, a gweld hefyd bod tipyn o waith i’w wneud arno,” meddai John Watkin.

“Meddylion ni wedyn y byddwn ni’n ceisio gwneud rhywbeth i helpu, ac mi gawson ni’r syniad i werthu’r gwin Malbec am ei fod yn gynnyrch arbennig i Batagonia.”

Ysgol y Cwm

Cafodd Ysgol y Cwm ei hagor ym mis Mawrth 2016, ac mae’n darparu addysg ar gyfer hanner cant o ddisgyblion gyda lle i 200 yn yr ysgol.

Dyma’r drydedd ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg yn y Wladfa, ac mae wedi ei lleoli yn Nhrevelin wrth droed mynyddoedd yr Andes.

Yr Hoelion Wyth

Mudiad Cymraeg i ddynion yng ngorllewin Cymru ydy Cymdeithas yr Hoelion Wyth lle mae chwe changen i gyd, gan gynnwys: Banc Siôn Cwilt, Wes Wes, Hendy-gwyn, Beca, Aberporth a Chors Caron.