Dydy’r codiad cyflog o 5% i athrawon Cymru’n cynnig “dim cymhelliant” i’r gweithlu, yn ôl un athrawes.

Daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Tachwedd 14) y bydd cyflogau athrawon yn codi ar raddfa is na chwyddiant eleni ac mae rhai athrawon yn barod i fynd ar streic.

Roedd y gweinidog addysg eisoes wedi cyhoeddi’r bwriad i gynnig codiad o 5% o fis Medi ymlaen ym mis Gorffennaf.

Daw hyn ar adeg ble mae’r gyfradd chwyddiant yn y Deyrnas Unedig ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd ar 10.1%.

Y cyflog cychwynnol newydd ar gyfer athrawon fydd £28,866, a bydd cyflogau athrawon mwy profiadol yn cynyddu £2,117 i £44,450.

Wrth gadarnhau’r codiad cyflog, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, ei fod yn derbyn y gallai rhai pobol fod yn siomedig nad yw’r cynnydd yn uwch, ond nad yw Llywodraeth Cymru “mewn sefyllfa” i gynnig codiad cyflog uwch “gan na chafwyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

‘Ia’ i streic

Dywedodd un athrawes yng ngogledd Cymru ei bod wedi derbyn ei llythyr pleidlaisio gan ei undeb, NASUWT, ac yn barod i’w lenwi o blaid streic.

“Buasai hyd yn oed 8% yn gwneud gwahaniaeth achos does yna ddim pwynt i ni fod yn y swydd a gweithio’r oriau rydyn ni ar gyfer 5% pan dydyn ni methu fforddio’r pethau sylfaenol,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl y buasai pobol yn derbyn 8% ond dydy o dal ddim yn cyfateb i chwyddiant y wlad.

“Os ydyn ni methu fforddio biliau ac ati, sut mae pobol ar gyflog is am allu fforddio byw?

“Dydy o ddim yn teimlo fel dim cymhelliant i ni weithio’n galetach a gweithio’r oriau rydyn [ni’n eu gweithio] tu allan i oriau’r ysgol.

“Er mwyn gallu gwneud y swydd i’r gorau allwn ni a chael ein cymell i’w wneud o’n dda, mae angen i’r cyflog fod yn gyfatebol i’r gwaith rydyn ni’n gwneud.”

Effaith ar ddisgyblion

Effaith streicio ar eu disgyblion mae’r athrawes uwchradd yn teimlo sy’n poeni ei chyd-athrawon, gyda phosibilrwydd o streic ym mis Ionawr.

“Mae o’n gyfnod pwysig o baratoi at arholiadau yn yr ysgol uwchradd, gyda ffug arholiadau ac ati.

“Byddan ni’n gweithio am fisoedd i baratoi’r disgyblion ond os ydyn ni’n penderfynu bod rhaid streicio, bydd hynna’n effeithio ar y plant mewn cyfnod sy’n anodd yn barod ar ôl Covid.”

Ysgolion yn ystyried toriadau

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn ystyried cwtogi ar staff yn sgil argyfwng cyllido, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl yr ymchwil gan undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, mae ysgolion yn gorfod gwneud toriadau yn sgil costau cynyddol a thanariannu.

Mae 61% o ysgolion a gafodd eu holi yn dweud y bydd rhaid ystyried cwtogi nifer eu hathrawon neu oriau gwaith athrawon, yn ôl y canfyddiadau.

“Does yna ddim digon o athrawon i ddelio gyda’r llwyth gwaith beth bynnag,” meddai’r athrawes wrth ystyried cwtogi staff.

“Ond rŵan ti’n gweithio ond ddim yn gwybod os fydd gen ti dal swydd mewn ychydig o fisoedd.

“Mae o’n effeithio ar ethos y staff.”

Loteri cod post cyllido ysgolion

Wrth ymateb i gadarnhad dyfarniad cyflog athrawon Cymru, dywedodd Laura Doel, cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru: “Mae’r cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu dyfarnu codiad cyflog o 5% i arweinwyr ac athrawon yn ergyd chwerw i’r proffesiwn.

“Nid yw’r wobr hon yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r degawd o doriadau i gyflogau sydd wedi golygu bod cyflogau arweinwyr ysgol yn cael eu torri gan fwy nag 20% ​​mewn termau real.

“Ni fydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r codiad, sy’n golygu y bydd ysgolion ar drugaredd pa bynnag swm y mae’r Awdurdodau Lleol wedi cyllidebu ar ei gyfer.

“Mae hynny’n amrywio gan ddibynnu ble rydych chi yng Nghymru, sy’n golygu y bydd yn rhaid i ysgolion wneud iawn am y diffyg yn y cyllidebau presennol.

“Unwaith eto bydd ysgolion yn dioddef yn sgil loteri cod post cyllido ysgolion, ond ein plant a’n pobol ifanc fydd yn dioddef o ganlyniad.”

Niwed di-ben-draw i addysg

Ychwanegodd Laura Doel bod yr ergyd i amodau athrawon yn “achosi niwed di-ben-draw i addysg”, ac yn cael effaith andwyol ar ddysgwyr.

“Tra ein bod yn ymuno â’r galwadau am arian ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r sector cyhoeddus, mae’n rhaid i holl wariant Llywodraeth Cymru ar addysg gael ei adolygu er mwyn sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei wario er mwyn cynnig y budd mwyaf i ddysgwyr,” meddai.