Mae astudiaeth newydd gan ddarlithwyr o Brifysgol Bangor yn datgan bod gan blant dwyieithog sgiliau meddwl uwch.

Roedd yr ymchwilwyr wedi canfod bod sgiliau meddwl plant dwyieithog 6.5% yn fwy effeithlon na sgiliau meddwl plant a oedd ond yn siarad un iaith yn unig.

Fe wnaethon nhw astudio plant ysgol a oedd yn siarad Groegaidd a Saesneg yn y Deyrnas Unedig.

Mae dau o’r ymchwilwyr, Athanasia Papastergiou ac Eirini Sanoudaki, yn ddarlithwyr Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, tra bod y trydydd ymchwilydd, Vasileios Pappas, yn ddarlithydd Cyllid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caint.

Trwy ddefnyddio “dulliau newydd ac arloesol”, roedd modd iddyn nhw fesur sgiliau’n fwy cywir a chynhwysfawr nag erioed o’r blaen.

Bydd y tîm nawr yn ehangu ar yr ymchwil, gyda phrosiect newydd sy’n astudio sgiliau meddwl plant Saesneg eu hiaith sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

“Tawelu ofnau” am ddwyieithrwydd

“Mae’n gyffrous iawn datblygu’r dull newydd hwn o astudio plant dwyieithog,” meddai Athanasia Papstergiou.

“Gobeithio y bydd y canlyniadau cadarnhaol hyn yn helpu i dawelu unrhyw ofnau posib ynglŷn â magu plant yn ddwyieithog ac yn tynnu sylw at y manteision o wneud hynny.”

Roedd Eirini Sanoudaki, sy’n uwch ddarlithydd Ieithyddiaeth yn y Brifysgol, yn arwain y prosiect.

“Mae mantais amlwg o allu cyfathrebu mewn mwy nag un iaith,” meddai.

“Mae ein canfyddiadau yn dangos y gall dysgu dwy iaith gynnwys mwy fyth o fanteision i ddatblygiad plant.

“Gofynnwyd i blant, er enghraifft, gofio ac ailadrodd cymaint o rifau â phosib, anwybyddu gwybodaeth amherthnasol a symud yn gyflym rhwng gwahanol dasgau: roedd plant dwyieithog yn gwneud hyn yn well ar y cyfan na phlant uniaith.

“Mae’r canlyniadau hyn yn bwysig i ni yma yng Nghymru ac yn wir i gymunedau dwyieithog ledled y byd.”

O Greta i Gymru

Iolo Jones

Portread o Dr Eirini Sanoudaki, sy’n hanu o Wlad Groeg, yn arbenigo ym maes ieithoedd, ac yn dwlu ar Gymru a’i heisteddfodau