‘Prentisiaethau yn ateb arloesol i sicrhau gweithlu dawnus y dyfodol’

…gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Ar drothwy Wythnos Prentisiaethau 2021, Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n egluro pam ei bod yn annog ei phlant i ystyried prentisiaeth a’r hyn sy’n gwneud iddi gredu bod prentisiaethau yn llwybr llewyrchus i waith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Heddiw yn fwy nag erioed, mae yna bryder cynyddol ymysg pobl ifanc am eu penderfyniadau gyrfa ar ôl gadael yr ysgol. Mae effaith Covid-19 ar yr economi wedi arwain at lawer yn ail-werthuso eu hopsiynau, gan achosi poen meddwl nid yn unig iddyn nhw, ond i’w rhieni hefyd.

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, rôl sydd gen i fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni feddwl sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar genedlaethau yfory, ac fel mam i bump, dyw hyn yn ddim byd newydd i mi. Mae gen i syniad go lew o’r llwybrau amrywiol sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael ysgol ac rydw i wedi gweld fy mhlant fy hun yn wynebu’r penderfyniadau gyrfa newid-bywyd hyn.

Byddwn wastad yn cefnogi fy mhlant pa bynnag lwybr roedden nhw’n ei deimlo oedd orau iddyn nhw. Ond os ydyn nhw’n dod ata’i am arweiniad ar eu camau nesaf, rwy’n eu hannog yn frwd i ystyried y llwybr prentisiaeth.

Roedd fy mab 17 oed wedi bwriadu mynd i’r brifysgol erioed i ddilyn gyrfa ym maes marchnata, ond ar ôl gweld cyfle prentisiaeth gyda brand marchnata digidol byd-eang, Unilever, aeth ati i bwyso a mesur rhai o’r opsiynau eraill a oedd ar gael. O fewn dim sylweddolodd y byddai prentisiaeth yn ei alluogi i ddechrau ei yrfa yn syth o’r ysgol, tra’n gweithio tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol a dysgu gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant – a byddai’n ennill cyflog hefyd. Buan y newidiodd ei feddwl, a phrentisiaeth oedd yr opsiwn a oedd yn apelio fwyaf iddo.

Ni chroesodd prentisiaeth fy meddwl i pan oeddwn i yn fy arddegau, a ches i ddim anogaeth i ystyried y peth. Roedd fy nhad wedi cwblhau ei brentisiaeth fel mecanydd, ond wrth dyfu i fyny, roedd pobl yn troi eu cefnau ar y llwybr dysgu hwn, gyda’r pwyslais ar fynd i’r brifysgol ym mhob rhan o gymdeithas.

Mae’n hawdd i rieni fagu eu plant fel iddyn nhw gael eu magu. Os ydych chi’n rhiant a drodd eich cefn ar brentisiaethau, yna mae’n syniad i chi bwyso a mesur sut mae’r math hwn o ddysgu wedi newid ers eich dyddiau ysgol chi.

Mae prentisiaethau wedi esblygu – maen nhw’n arloesol, maen nhw’n gallu bod yn chwyldroadol. Mae cyfleoedd di-ri bellach mewn amrywiol sectorau yng Nghymru – o wyddor bywyd, creadigol, digidol ac mewn diwydiannau adnewyddol gwyrdd hefyd. Dyma ddiwydiannau’r dyfodol ac mae’n ddyletswydd arnom ni i ddeall, a pharatoi ein plant ar gyfer y gofynion gwaith a’r sgiliau newidiol hyn. Pe bai’r cyfleoedd hyn ar gael i mi yn fy arddegau, gallai fy llwybr gyrfa wedi bod yn un tra gwahanol.

Cyflogwyr

Rwy’n credu bod diffyg cysylltiad rhwng pa sgiliau mae unigolion yn meddwl y mae cyflogwyr eu heisiau o gymharu â’r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr mewn gwirionedd. Fel cyflogwr fy hun, ac fel rhywun sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â chyflogwyr, mae prentisiaethau’n cael eu parchu’n eang fel opsiwn recriwtio gwerth chweil, gan alluogi busnesau i hogi sgiliau gweithwyr brwd, gan ddiwallu eu hanghenion.

Rwyf wedi recriwtio prentisiaid yn fy sefydliad sydd wedi dod yn rhan ganolog o’m gweithlu. I mi, mae’n ffordd gost-effeithiol o recriwtio ac mae’n gymorth mawr i lenwi bylchau mewn sgiliau. Ond mae mwy i’r peth na hyn, mae staff presennol y swyddfa hefyd yn dysgu gan y prentis; mae sgiliau’n cael eu cyfnewid ddwy ffordd. Mae fy nghyn-brentis bellach yn aelod allweddol o’m tîm ac mae’n dystiolaeth amlwg o sut mae’r Rhaglen Prentisiaethau yn meithrin gweithwyr teyrngar, dawnus a gwerthfawr.

Mae effaith hirdymor buddsoddi mewn pobl ifanc yn dibynnu’n fawr ar ein camau ar hyn o bryd. Yn y pen draw, bydd yr hyn a roddir ar waith heddiw o fudd i ni gyd yfory. Mae’n hollbwysig ein bod yn creu cyfleoedd i bobl ifanc, allwn ni ddim gadael cenhedlaeth heb sgiliau, heb ragolygon, heb swyddi.

Mae dod ag unigolion i gysylltiad ag amgylchedd gwaith o oedran ifanc yn helpu iddyn nhw ddod yn fwy ymwybodol o’r byd o’u cwmpas ac ymgysylltu ag ef. Mae’r profiad yn sbarduno sgiliau personol, yn ogystal â rhai proffesiynol, fel creadigrwydd, deallusrwydd emosiynol a meddwl yn feirniadol – sydd i gyd yn briodweddau gwerthfawr sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Heriau

Yn wir, mae’r pandemig yn cyflwyno heriau anodd i fusnesau, ond gallwn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Rydyn ni’n byw mewn chwyldro digidol ac yn gweld mwy a mwy o ddatblygiadau yn ein diwydiannau gwyrdd ac adnewyddadwy. Trwy weithredu nawr, gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyn drwy ddatblygu a diogelu gweithlu ar gyfer y dyfodol gyda’r sgiliau i sicrhau llwyddiant Cymru yn y dyfodol.

Mae prentisiaethau yn ffordd effeithiol o feithrin gweithlu dawnus sy’n addas ar gyfer swyddi’r dyfodol. I bobl ifanc, maen nhw’n llwybr sydd wedi profi’n llwyddiannus i gyflogaeth gynaliadwy mewn diwydiannau allweddol a all gynnig gyrfaoedd gwerth chweil a chyfleoedd i gamu ymlaen. Mae prentisiaethau yn ddewis doeth heb os nac oni bai.

Os yw Cymru i fynnu go iawn, sef un o’r nodau yn Neddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, rwy’n credu i’r carn bod angen i Lywodraeth a busnes ddal ati i gydweithio i sicrhau bod gennym gyflenwad o ddoniau sy’n hybu’r ystod eang o sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i fanteisio ar y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol.

Mae’n bwysig bod gwahanol lwybrau i waith a bod lle o hyd i’r holl lwybrau hyn heddiw ac yn y dyfodol. Fel rhieni, byddwn wastad yn cynghori a chefnogi ein plant hyd eithaf ein gallu wrth wneud y penderfyniadau gyrfa newid-bywyd hynny, a gall hynny ddechrau drwy addysgu ein hunain o’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael. Efallai y byddwch chithau, fel minnau, yn synnu pa lwybr y byddwch yn annog eich plant i’w ddilyn.

  • Mae’r Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod yn brentis yma
  • Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyflogi prentis yma
  • Ewch i dudalen Facebook Prentisiaethau Cymru neu @ApprenticeWales ar Twitter a dilyn yr hashnod #AWWales.

 

Dweud eich dweud