Psy
Mae ysgol yn ne Cymru wedi dyfeisio dull gwahanol iawn o ddysgu gramadeg cywir i ddisgyblion, sy’n cynnwys dawnsio, canu, a cherddoriaeth bop o dde Corea.

Mae plant ac athrawon o Ysgol Gyfun Garth Olwg ym Mhontypridd wedi creu fideo newydd i gyd fynd â’r gân a ddaeth yn fyd-enwog y llynedd, ‘Gangnam Style’ gan y canwr o Gorea, Psy.

Ond nid fideo o ddawnsio arferol yw hwn, mae’r athrawes Gymraeg, Siân Roberts, wedi sicrhau ei fod yn dysgu’r defnydd cywir o atalnodi i blant.

Mae’r plant wedi newid geiriau’r gân i ddysgu rheolau am briflythrennau, collnodau ac ebychnodau, mewn ffordd greadigol a hwylus yn ôl y Pennaeth, Angela Williams.

“Siân Roberts, athrawes Gymraeg hynod greadigol, ddaeth i fyny hefo’r syniad, gan ei bod hi’n poeni am atalnodi’r disgyblion.  Daeth y syniad o greu fideo i apelio at y plant, yn lle poster diflas hefo rheolau arno,” meddai.

‘Hwyliog’

Mae’r fideo wedi cael ei weld bron i 5,000 o weithiau ar YouTube, ac wedi ei rannu nifer o weithiau ar Facebook a Twitter, ers ei lwytho i’r we wythnos yma.  Dywedodd Angela Williams ei bod yn obeithiol y bydd mwy o fideos yn cael eu creu yn sgil y prosiect:

“Mae’r fideo wedi plesio yn fawr.  Mae wedi denu sylw plant at ramadeg mewn ffordd hwyliog, a ddim fel y llyfr gramadeg traddodiadol dwi’n ei gofio!  Y gobaith hefyd yw annog plant i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus yn gymdeithasol.”

Mae’r fideo yn cynnwys disgyblion a staff o bob adran, a hyd yn oed ymddangosiad arbennig gan blismon lleol.

“Dwi’n falch bod y fideo wedi cynnwys pawb, o bob adran dysgu, y cogyddion a hyd yn oed y plismon sydd ynddo.  Mi wnaeth o addo i fod yn y fideo a chwarae teg fe wnaeth o ddod i mewn i gymryd rhan!”

Gwyliwch y fideo trwy glicio ar:

http://www.youtube.com/watch?v=APfFTP71E2E