Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi croesawu cydnabyddiaeth Plaid Cymru, mewn e-bost a welwyd gan BBC Cymru, fod yr hyn a ddywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, ynglŷn â thalu digollediadau (reparations) i Gymru yn anghywir.

Ym mis Tachwedd, heriodd Vaughan Gething AS honiadau Arweinydd Plaid Cymru fod y profiad Cymreig  “yn cyfateb, os nad yn union yr un fath” â phrofiad Americanwyr Affricanaidd yn yr Unol Daleithiau.

Roedd Mr Price wedi dweud ym mis Hydref fod Cymru’n haeddu “iawndal am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad â chyfoeth o adnoddau, etifeddiaeth chwerw o dlodi, salwch, difetha bywydau a chwalu breuddwydion.”

Mewn e-bost diweddarach a welwyd gan BBC Cymru, mae Plaid Cymru’n dweud: “Mae [Mr Price] nawr yn cydnabod a derbyn y feirniadaeth mewn ymateb i’r stori – hynny yw, fod cyflwyno’r fath ddadl heb ystyried rhan Cymru yn yr ymerodraeth a gwladychiaeth yn anghywir.”

Trobwynt

Heddiw (dydd Mercher 10 Mehefin), dywedodd Mr Gething: “Rwy’n croesawu’r gydnabyddiaeth gan Blaid Cymru heddiw fod sylwadau Adam Price […] yn anghywir.

“Mae marwolaeth George Floyd wedi arwain at gydnabyddiaeth lawer ehangach o anghydraddoldeb hiliol parhaus ledled y byd, nid yn yr Unol Daleithiau yn unig. Wrth i ni ystyried y camweddau yn ystod y canrifoedd a’r degawdau diwethaf, mae’n bwysig ein bod yn ystyried y gorffennol mwy diweddar.

“Rydym ar hyn o bryd ar drobwynt yn ein hanes. Ni allwn bellach dderbyn y ‘gwyngalchu’ [sy’n digwydd i’n] gorffennol a chuddio’r realiti o sut y cafodd pobl dduon a phobl o liw ar draws y byd eu trin. Mae’n dal i fod yn bwysig heddiw, mae’n dal i ddigwydd heddiw.

Symud ymlaen

“Dylai Adam Price fyfyrio ar ei sylwadau cyhoeddus […] a chydnabod, pan gafodd ei herio yn eu cylch, nad […] ymgais i gymryd rhan mewn ‘gwleidyddiaeth hyll’ oedd hynny. Yr oedd yn fynegiant diffuant o boen a dicter at ei ddiffyg ymwybyddiaeth a sensitifrwydd.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig i bob un ohonom allu symud ymlaen a chreu gwell dyfodol i ni gyd, bod pobl yn myfyrio ar gamgymeriadau blaenorol a’u cywiro. Yr wyf yn croesawu’r ffaith bod Adam Price wedi gwneud datganiadau cadarnhaol mewn ymateb i’r mudiad byd-eang Black Lives Matter.

“Byddai mewn sefyllfa well fyth i gyfrannu at y dyfodol pe bai’n cydnabod ei gamgymeriadau ei hun a’r sarhad a achoswyd. Gobeithio ei fod yn cymryd y cyfle i wneud hynny.”