Mae “pob rhan o Gymru” yn ymdopi â’r coronafeirws ac yn profi sefyllfa “sy’n gwella”, yn ôl y Prif Swyddog Meddygol.

Daw sylwadau Dr Frank Atherton wedi i sawl newyddiadurwr dynnu sylw at y sefyllfa yn y Gogledd yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg heddiw (dydd Iau 4 Mehefin).

Mae yn dilyn cyhoeddi ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (dydd Mercher 3 Mehefin) a oedd yn dangos 82 o achosion newydd yng Nghymru, gyda 53 ohonynt yn ardal Betsi Cadwaladr.

Ond yn ôl yr uwch-swyddog, does dim angen poeni’n ormodol am fod pethau’n gwella’n raddol ym mhob rhan o Gymru – gan gynnwys y Gogledd.

“Pan dw i’n edrych ar y nifer sy’n cael eu derbyn i ysbytai yng ngogledd Cymru, a marwolaethau coronaferiws, dw i’n gweld yr un darlun a dw i’n ei weld mewn byrddau eraill – hynny yw, cwymp mewn achosion,” meddai.

“Dw i’n credu bod pethau yn gwella ledled Cymru. Dw i’n cydnabod bod y don coronafeirws wedi pasio trwy ogledd Cymru yn hwyrach, mwy na thebyg, nag yn ne Cymru. Ond mae pob rhan o Gymru yn profi sefyllfa sy’n gwella.”

Y Gogledd

Mae yntau’n tybio bod y sefyllfa yn edrych yn waeth yn y Gogledd am fod profi wedi dod i rym yno yn hwyrach nag yn y de. Mae ardal Betsi Cadwaladr yn “dal i fyny” felly, meddai.

Mae lle i gredu bod y feirws wedi bod yn lledaenu o’r de ddwyrain – lle bu’r achosion ar eu dwysaf ar ddechrau’r argyfwng – a thua’r gogledd a’r gorllewin.

Yn y gynhadledd bu’n sôn am ambell agwedd arall ar yr haint, gan gynnwys ei bryderon y gallai pethau droi’n anoddach wrth i’r tywydd oeri yn yr hydref.

Ffigurau diweddaraf

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Iau 4 Mehefin) bod wyth yn rhagor wedi marw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau yng Nghymru i 1,379.

Mae 35 yn rhagor wedi profi’n bositif am Covid-19, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd yn y wlad i 14,238.