Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn mynd i’r afael â thân mawr yng Nghwm Einion ger Ffwrnais, Ceredigion sydd wedi bod yn llosgi ers prynhawn dydd Sul (Mai 17).

Mae difrod sylweddol eisoes wedi’i achosi i’r goedwig sydd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â safle bywyd gwyllt o bwysigrwydd cenedlaethol.

Mae lle i gredu bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol, ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad.

Maen nhw’n apelio am wybodaeth.

‘Trasiedi’

“Nid yn unig y mae’r tanau hyn yn peri risg sylweddol i ddiogelwch ein cymunedau, ond rydym yn gweld yma fod safle bywyd gwyllt o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o bwys cenedlaethol yn cael ei ddinistrio,” meddai’r Sarjant Marc Davies o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae modd osgoi’r tanau anghyfreithlon hyn yn llwyr ac mae’n drasiedi gweld y dinistr a’r niwed i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a all ein helpu i adnabod y bobol hynny sy’n gyfrifol am y tân hwn, cysylltwch â ni.”