Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi pwysleisio mai aros adre’n ddiogel yw’r neges yn dal i fod yng Nghymru wedi iddyn nhw orfod rhoi bron i 220 dirwy allan i bobl oedd yn torri’r rheolau dros benwythnos gŵyl y banc.

Cafodd 80% o’r dirwyon gafodd ei dosbarthu rhwng dydd Gwener (Mai 8) a dydd Sul (Mai 10) eu rhoi i ymwelwyr oedd wedi teithio i Dyfed-Powys.

Mae hyn wedi arwain yr heddlu i atgoffa pobl nad yw’r rheolau wedi newid yng Nghymru, er gwaethaf cyhoeddiad y Prif Weinidog Boris Johnson nos Sul (Mai 10).

“Unwaith eto cawsom benwythnos gŵyl y banc prysur yn ceisio sicrhau fod pobl yn cadw at y rheolau ac yn cadw’n sâff” meddai’r Arolygydd Andy Williams.

“Yn anffodus rydym wedi dod ar draws pobl sydd wedi teithio cannoedd o filltiroedd am resymau oedd ddim yn hanfodol,”

“Hoffwn atgoffa pobl bod pobl ddim ond yn cael teithio yng Nghymru ar gyfer diben hanfodol.”

Cafodd dau deulu eu troi yn ôl dros y penwythnos ar ôl teithio 200 milltir ar gyfer diwrnod allan.

Dywedodd yr Arolygydd: “Hoffwn bwysleisio neges Llywodraeth Cymru, sef arhoswch gartref, arhoswch yn ddiogel, achubwch fywydau.”