Mae’r Tywysog Charles wedi talu teyrnged i’r diweddar Tedi Millward am fagu ynddo “gariad mawr a pharhaus at Gymru, ei phobol a’i diwylliant”.

Fe ddysgodd iddo’r Gymraeg cyn ei Arwisgo’n Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969, ac yntau wedi bod ar gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y cyfnod cyn y seremoni.

Roedd E.G. Millward, oedd yn 89 oed, yn ddarlithydd yn y brifysgol ar y pryd.

“Dw i’n drist iawn o glywed am farwolaeth Dr Millward,” meddai.

“Mae gen i atgofion melys iawn o’m hamser yn Aberystwyth gyda Dr Millward dros 51 o flynyddoedd yn ôl.

“Tra ’mod i’n ofni nad oeddwn i’r myfyriwr gorau, fe ddysgais gryn dipyn ganddo am yr iaith Gymraeg ac am hanes Cymru.

“Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, rwy’n fythol ddiolchgar iddo am helpu i feithrin ynof gariad mawr a pharhaus at Gymru, ei phobol a’i diwylliant.

“Anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf i’w deulu.”

Teyrnged merch i’w thad

Mae Llio Millward hefyd wedi talu teyrnged i’w thad.

“Roedd fy annwyl dad yn ddyn egwyddorol iawn a wnaeth ymroi gydol ei fywyd ac a gyfrannodd oes o waith i Gymru,” meddai.

“Er ei fod e’n ddiymhongar o ran ei bersonoliaeth, fe gyrhaeddodd uchelfannau aruthrol gan fyw gydol ei fywyd â phwrpas mawr ac angerdd dros Gymru, y Gymraeg a’r Cymry.

“Roedd e’n ddyn oedd yn meddu ar y gonestrwydd mwyaf, ac roedd e’n ŵr bonheddig ym mhob ystyr.

“Yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ogystal ag yn awdur llyfrau ac erthyglau niferus a gafodd eu cyhoeddi, roedd yn un o ddau brif academydd llenyddiaeth a hanes diwylliannol Cymru Oes Fictoria.

“Yn ddarlithydd yn y Gymraeg, ef oedd y cyntaf i ddysgu’r Gymraeg i bobol ddi-Gymraeg mewn prifysgol.

“Roedd Dad yn genedlaetholwr heddychlon, yn heddychwr a geisiodd, drwy ddulliau heddychlon, i frwydro dros hawl y Cymry i fyw eu bywydau yn eu hiaith eu hunain.”

Dysgu Charles

Dywed ymehllach fod ei thad wedi dysgu Cymraeg i’r Tywysog Charles “yn y gobaith y byddai’n gyfle i oleuo aelod pwysig o’r sefydliad Seisnig am frwydr yr iaith a’r diwylliant unigryw a gwerthfawr y mae’r Gymraeg yn rhan ohonyn nhw”.

“Dywedodd Dad erioed fod Charles, y seminarau preifat hynny, yn ddyn ifanc sensitif, deallus ac eangfrydig ac rwy’n credu iddyn nhw barchu ei gilydd.”

Wrth barhau â’i theyrnged bersonol, dywed Llio Millward i’w thad frwydro yn erbyn salwch “â dewrder, urddas a dyfalbarhad enfawr”, gan ddweud ei bod hi’n rhyfeddu at “ei nerth, ei wytnwch a’i ysbryd”.

“Dw i wedi colli dyn galluog aruthrol a ddylanwadodd arna i ac a’m hysbrydolodd a’m dysgu, a dw i wedi colli fy mentor addfwyn, tawel a safodd yn fy ymyl drwy bopeth.

“Roedd yn dad hyfryd ac roedden ni’n agos dros ben, dw i’n torri fy nghalon.”