Mi allai nifer yr achosion o coronafeirws gyrraedd eu hanterth dwywaith, neu deirgwaith, yng Nghymru os na fyddwn yn ofalus.

Dyna rybuddiodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, wrth annerch y wasg ar brynhawn dydd Iau (Ebrill 23).

Pan ofynnwyd os oedd nifer yr achosion eisoes wedi cyrraedd eu hanterth yng Nghymru, cynigodd ateb gofalus gan nodi bod y sefyllfa’n “sefydlogi”.

Dywedodd bod niferoedd o gleifion covid-19 mewn ysbytai ac unedau gofal dwys yn cwympo, a chroesawodd hynny. Ond awgrymodd y byddai cefnu ar fesurau ynysu, yn awr, yn annoeth.

“Arwyddion calonogol”

“Mae’r rhain oll yn arwyddion calonogol, ac yn cael eu hatgyfnerthu gan batrwm cryfach dros y dyddiau diwethaf,” meddai.

“Fodd bynnag, un o’n pryderon yw bod yn rhaid i ni barhau â’r gyfres o gamau sydd mewn grym. A hynny am fod y ffordd mae’r cyhoedd wedi cydweithio gyda ni – trwy aros adre, er enghraifft – wedi cael cymaint o effaith.

“Mae gennym rhai pryderon y gall nifer yr achosion cyrraedd eu hanterth am yr eildro, neu drydedd gwaith. Bwriad ein gweithredu, ar hyn o bryd, yw gwneud yn siŵr ein bod yn cadw pethau’n sefydlog ac yn gwella.”

Ystadegau allweddol

  • Mae nifer yr achosion (newydd, neu heb wella) pob dydd wedi sefydlogi dros y pythefnos diwethaf
    • Mae’r ffigurau diweddaraf wedi bod rhwng 300 a 400 y diwrnod
  • Mae un o bob tri prawf yn bositif
  • Mae 773 o bobol sydd â choronafeirws mewn ysbytai aciwt heddiw
    • Mae hyn yn is o gymharu â’r wythnos diwethaf
  • Mae yna dystiolaeth bod niferoedd is o bobol â choronafeirws mewn gofal dwys