Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi fframwaith er mwyn mynd i’r afael â coronavirus yng Nghymru.

Fe ddaw ar ôl iddo rybuddio y gallai hyd at 20,000 o bobol farw yn y wlad.

Mae 38 o achosion wedi’u cadarnhau yma hyd yn hyn, a phedwar o achosion newydd yng Nghaerffili, dau yn Abertawe, ac achosion eraill ym Môn, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Sir Fynwy, Casnewydd a Phowys.

Mewn datganiad, dywed Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru’n dechrau paratoi i symud o’r cyfnod “cyfyngu” yr haint i’r cyfnod “oedi”.

Mae’n dweud ei bod yn “hanfodol fod ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn barod” ar gyfer hynny.

Mae’n dweud bod y camau yn eu lle i helpu cleifion a gwasanaethau fydd dan bwysau wrth i nifer yr achosion gynyddu.

“Dw i’n dewis gweithredu nawr cyn i ni weld twf sylweddol mewn galw fel bod ein gwasanaethau’n gallu bod yn barod i weithredu,” meddai.

“Mae’n debygol y bydd angen lefel uchel o ofal ar nifer uwch o bobol dros yr wythnosau i ddod.”

Y camau

Y camau sydd wedi’u cyhoeddi gan Vaughan Gething yw:

  1. Atal apwyntiadau cleifion allan nad ydyn nhw’n rhai brys a sicrhau bod blaenoriaeth i apwyntiadau brys
  2. Atal derbyniadau a thriniaethau meddygol nad ydyn nhw’n rhai brys (gan sicrhau mynediad i lawdriniaethau brys)
  3. Blaenoriaethu’r defnydd o wasanaeth cludiant cleifion nad ydyn nhw’n achosion brys er mwyn canolbwyntio ar ryddhau cleifion ac ymatebion brys y gwasanaeth ambiwlans
  4. Cyflymu’r broses o ryddhau cleifion bregus o ysbytai cwrs penodol a chymunedol
  5. Lleddfu targedau a monitro trefniadau ar draws y system iechyd a gofal
  6. Lleihau gofynion rheoliadol ar gyfer lleoliadau iechyd a gofal
  7. Cyflymu llefydd mewn cartrefi gofal drwy atal y protol cyfredol sy’n rhoi’r hawl i ddewis cartref
  8. Hawl i ganslo digwyddiadau mewnol a phroffesiynol, gan gynnwys cyfnodau astudio er mwyn rhyddhau staff er mwyn paratoi
  9. Lleddfu trefniadau cytundebau a monitro ar gyfer meddygon teulu ac ymarferwyr gofal sylfaenol
  10. Atal cefnogaeth gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr iechyd y Gwasanaeth Iechyd ar gyfer cynulliadau a digwyddiadau mawr

Ymateb Cyngor Llywodraeth Leol Cymru

Yn y cyfamser, mae Cyngor Llywodraeth Leol Cymru wedi ymateb i’r sefyllfa ddiweddaraf.

Mae’r arweinydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Tâf, yn dweud eu bod nhw’n “gweithio’n agos â Iechyd Cyhoeddus Cymru a llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i wneud yn siŵr ein bod ni’n cymryd pob cam a mesur sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn cael eu cynnal”.

“Rydyn ni’n monitro’r sefyllfa yn fanwl ac yn barod i gyflwyno unrhyw fesurau sydd eu hangen i amddiffyn y cyhoedd, yn arbennig y rhai hynny sy’n fwy debygol o gontractio’r feirws yn enwedig mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a chartrefi preswyl,” meddai wedyn.

“Os oes gan unrhyw un bryderon neu os am wybodaeth pellach, byddwn i’n annog trigolion i ymweld â gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda’r holl wybodaeth ddiweddaraf.”