Mae Heddlu’r De wedi ymestyn Hysbysiad Adran 60 yng Nghaerdydd tan 11 o’r gloch heno (nos Sul, Chwefror 2).

Roedd disgwyl i’r gorchymyn, sy’n galluogi’r heddlu i archwilio unrhyw un heb reswm, ddod i ben yn ardaloedd Trebiwt, Grangetown a Glanyrafon am 2 o’r gloch.

Ond fe gafodd ei ymestyn.

Fe ddaw yn dilyn dau achos o drywanu yn y brifddinas dros gyfnod o 24 awr.

Mae dau ddyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.