Mae Iran yn galw ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i feirniadu’r cyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithiau a arweiniodd at ladd un o arweinwyr milwrol Iran.

Mae Tehran yn cyhuddo’r Unol Daleithiau o “weithred droseddol” o “frawychiaeth wladol” ar ôl iddyn nhw ladd  yr Uwchfrigadydd Qassem Soleimani.

Mae lle i gredu bod yr Uwchfrigadydd wedi chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn rhai o’r grwpiau brawychol mwyaf peryglus, gan gynnwys Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Am y rheswm hwnnw, mae Iran yn codi amheuon am ddatganiad yr Unol Daleithiau mai eu bwriad oedd “trechu brawychiaeth”.

Mae llysgennad Iran yn galw ar y Cyngor Diogelwch i “gwblhau ei gyfrifoldebau a chondemnio’r weithred droseddol anghyfreithlon”.

Ond mae’n annhebygol o ddigwydd gan y byddai’r Unol Daleithiau yn anghydweld â’r fath ddatganiad.