Mae’r Ceidwadwyr wedi cipio chwe sedd oddi ar y Blaid Lafur ar noson sydd wedi newid y tirlun gwleidyddol yng Nghymru – gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi diflannu’n llwyr.

Yn y sioc fwyaf ohonyn nhw i gyd, mae Llafur wedi colli sedd Ynys Môn, wrth i Virginia Crosbie o Essex gipio’r sedd oddi ar Lafur yn dilyn ymddeoliad Albert Owen.

Sicrhaodd hi fwyafrif o 1,968 dros yr ymgeisydd Llafur, Mary Roberts.

Ar noson pan fo nifer o seddi coch wedi troi’n las ar draws y gogledd, mae Llafur hefyd wedi colli Wrecsam, Dyffryn Clwyd, De Clwyd a Delyn.

Maen nhw hefyd wedi cipio Pen-y-bont oddi ar Lafur gan greu sioc bellach yn y de.

Yn dilyn cyfnod cythryblus i’r Ceidwadwyr yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, maen nhw wedi adennill y sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd wedi ennill is-etholiad yn gynharach eleni diolch i Jane Dodds, yn dilyn y penderfyniad i symud Chris Davies o’i sedd.

Erbyn hyn, mae gan Lafur 22 sedd, a’r Ceidwadwyr yn codi i 14.

Er mai cael a chael oedd hi i Ben Lake a Jonathan Edwards, llwyddodd Plaid Cymru i ddal eu gafael ar Geredigion a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn ogystal ag Arfon a Dwyfor-Meirionnydd.

Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim un sedd erbyn hyn.

Blog byw etholiad 2019

Newyddion, sylwadau a chanlyniadau drwy gydol y nos

Y canlyniadau’n llawn

Aberafan
Annibynnol Captain Beany 731
Plaid Brexit Glenda Davies 3108
Y Blaid Werdd Giorgia Finney 450
Plaid Cymru Nigel Hunt 2711
Democratiaid Rhyddfrydol Sheila Kingston-Jones 1072
CADW Llafur Stephen Kinnock 17008
Ceidwadwyr Charlotte Lang 6518
Aberconwy
Democratiaid Rhyddfrydol Robert Edwards 1821
Plaid Cymru Lisa Goodier 2704
CADW Ceidwadwyr Robin Millar 14687
Llafur Emily Owen 12653
Alun a Glannau Dyfrdwy
Plaid Cymru Susan Hills 1453
Democratiaid Rhyddfrydol Donna Lalek 2548
Ceidwadwyr Sanjoy Sen 18058
CADW Llafur Mark Tami 18271
Plaid Brexit Simon Wall 2678
Arfon
Ceidwadwyr Gonul Daniels 4428
Plaid Brexit Gary Gribben 1159
Llafur Steffie Williams Roberts 10353
CADW Plaid Cymru Hywel Williams 13134
Blaenau Gwent
Democratiaid Rhyddfrydol Chelsea-Marie Annett 1285
Ceidwadwyr Laura Jones 5749
Plaid Cymru Peredur Owen Griffiths 1722
Y Blaid Werdd Stephen Priestnall 386
CADW Llafur Nick Smith 14862
Plaid Brexit Richard Taylor 6215
Brycheiniog a Sir Faesyfed
Llafur Tomos Davies 3944
Is-etholiad Democratiaid Rhyddfrydol Jane Dodds 14827
Christian Jeff Green 245
CIPIO Ceidwadwyr Fay Jones 21958
Monster Raving Loony Lady Lily the Pink 345
Pen-y-bont ar Ogwr
Y Blaid Werdd Alex Harris 815
Plaid Cymru Leanne Lewis 2013
Llafur Madeleine Moon 17036
Plaid Brexit Robert Morgan 1811
Democratiaid Rhyddfrydol Jonathan Pratt 2368
CIPIO Ceidwadwyr Jamie Wallis 18193
Caerffili
CADW Llafur Wayne David 18018
Plaid Brexit Nathan Gill 4490
Ceidwadwyr Jane Pratt 11185
Plaid Cymru Lindsay Whittle 6424
Canol Caerdydd
Gwlad Gwlad Siân Caiach 280
Ceidwadwyr Meirion Jenkins 8426
Socialist (GB) Brian Johnson
Annibynnol Akil Kata 119
Democratiaid Rhyddfrydol Bablin Molik 6298
Plaid Brexit Gareth Pearce 1006
CADW Llafur Jo Stevens 25605
Gogledd Caerdydd
Ceidwadwyr Mo Ali 19082
Plaid Brexit Chris Butler 1311
Y Blaid Werdd Michael Cope 820
Annibynnol Richard Jones 203
CADW Llafur Anna McMorrin 26064
Democratiaid Rhyddfrydol Rhys Taylor 3580
Plaid Cymru Steffan Webb 1606
De Caerdydd a Phenarth
Plaid Cymru Nasir Adam 2386
Y Blaid Werdd Ken Barker 1182
Ceidwadwyr Phillippa Broom 14645
CADW Llafur Co-op Stephen Doughty 27382
Plaid Brexit Tim Price 1999
Democratiaid Rhyddfrydol Dan Schmeising 2985
Gorllewin Caerdydd
CADW Llafur Kevin Brennan 23908
Plaid Cymru Boyd Clack 3864
Y Blaid Werdd David Griffin 1133
Democratiaid Rhyddfrydol Callum Littlemore 2731
Plaid Brexit Nick Mullins 1619
Ceidwadwyr Carolyn Webster 12922
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Llafur Maria Carroll 8622
CADW Plaid Cymru Jonathan Edwards 15939
Ceidwadwyr Havard Hughes 14130
Plaid Brexit Peter Prosser 2311
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Democratiaid Rhyddfrydol Alistair Cameron 1860
CADW Ceidwadwyr Simon Hart 22183
Plaid Cymru Rhys Thomas 3633
Llafur Marc Tierney 14438
Ceredigion
CADW Plaid Cymru Ben Lake 15208
Ceidwadwyr Amanda Jenner 8879
Democratiaid Rhyddfrydol Mark Williams 6975
Plaid Brexit Gethin James 2063
Llafur Dinah Mulholland 6317
Y Blaid Werdd Chris Simpson 663
De Clwyd
Plaid Brexit Jamie Adams 1468
Plaid Cymru Christopher Allen 2137
CIPIO Ceidwadwyr Simon Baynes 16222
Democratiaid Rhyddfrydol Calum Davies 1496
Llafur Susan Elan Jones 14983
Gorllewin Clwyd
CADW Ceidwadwyr David Jones 20403
Llafur Joanne Thomas 13656
Democratiaid Rhyddfrydol David Wilkins 2237
Plaid Cymru Elfed Williams 3907
Cwm Cynon
Plaid Cymru Geraint Benney 2562
Democratiaid Rhyddfrydol Steve Bray 949
Cwm Cynon Andrew Chainey 1322
Ceidwadwyr Pauline Church 6711
SDP Ian McLean 114
Plaid Brexit Rebecca Rees-Evans 3045
CADW Llafur Beth Winter 15533
Delyn
Llafur David Hanson 15891
Democratiaid Rhyddfrydol Andrew Parkhurst 2346
CIPIO Ceidwadwyr Rob Roberts 16756
Plaid Cymru Paul Rowlinson 1406
Plaid Brexit Nigel Williams 1971
Dwyfor Meirionnydd
Ceidwadwyr Tomos Davies 9707
Llafur Graham Hogg 3998
Plaid Brexit Louise Hughes 1776
CADW Plaid Cymru Liz Saville Roberts 14447
Gŵyr
CADW Llafur Tonia Antoniazzi 20208
Democratiaid Rhyddfrydol Sam Bennett 2236
Plaid Cymru John Davies 2288
Ceidwadwyr Francesca O’Brien 18371
Plaid Brexit Rob Ross 1379
Islwyn
Ceidwadwyr Gavin Chambers 9892
CADW Llafur Co-op Chris Evans 15356
Plaid Cymru Zoe Hammond 2286
Y Blaid Werdd Catherine Linstrum 669
Democratiaid Rhyddfrydol Jo Watkins 1313
Plaid Brexit James Wells 4834
Llanelli
Plaid Cymru Mari Arthur 7048
Plaid Brexit Susan Boucher 3605
CADW Llafur Nia Griffith 16125
Ceidwadwyr Tamara Reay 11455
Merthyr Tudful a Rhymni
Democratiaid Rhyddfrydol Brendan D’Cruz 1116
Plaid Cymru Mark Evans 2446
Annibynnol David Hughes 1860
Plaid Brexit Colin Jones 3604
CADW Llafur Gerald Jones 16913
Ceidwadwyr Sara Jones 6307
Mynwy
Y Blaid Werdd Ian Chandler 1353
CADW Ceidwadwyr David Davies 26160
Annibynnol Martyn Ford 435
Plaid Cymru Hugh Kocan 1182
Llafur Yvonne Murphy 16178
Democratiaid Rhyddfrydol Alison Willott 4909
Castell-nedd
Plaid Brexit Simon Briscoe 3184
Ceidwadwyr Jon Burns 10283
Democratiaid Rhyddfrydol Andrew Kingston-Jones 1485
Y Blaid Werdd Megan Lloyd 728
CADW Llafur Co-op Christina Rees 15920
Annibynnol Philip Rogers 594
SDP Carl Williams 67
Plaid Cymru Daniel Williams 4495
Dwyrain Casnewydd
Ceidwadwyr Mark Brown 14133
Democratiaid Rhyddfrydol Mike Hamilton 2121
CADW Llafur Jessica Morden 16125
Plaid Brexit Julie Price 2454
Y Blaid Werdd Peter Varley 577
Plaid Cymru Cameron Wixcey 872
Gorllewin Casnewydd
Plaid Cymru Jonathan Clark 1187
Plaid Brexit Cameron Edwards 1727
Ceidwadwyr Matthew Evans 18075
CADW Llafur Ruth Jones 18977
Democratiaid Rhyddfrydol Ryan Jones 2565
Y Blaid Werdd Amelia Womack 902
Ogwr
Democratiaid Rhyddfrydol Anita Davies 1460
CADW Llafur Chris Elmore 17602
Plaid Cymru Luke Fletcher 2919
Y Blaid Werdd Tom Muller 621
Plaid Brexit Christine Roach 2991
Ceidwadwyr Sadie Vidal 9797
Pontypridd
Plaid Brexit Steve Bayliss 2917
Annibynnol Jonathan Bishop 149
CADW Llafur Alex Davies-Jones 17381
Plaid Cymru Fflur Elin 4990
Annibynnol Mike Powell 1792
Annibynnol Sue Prior 337
Ceidwadwyr Sam Trask 11494
Preseli Sir Benfro
CADW Ceidwadwyr Stephen Crabb 21381
Democratiaid Rhyddfrydol Thomas Hughes 1943
Llafur Philippa Thompson 16319
Plaid Cymru Cris Tomos 2776
Rhondda
Democratiaid Rhyddfrydol Rodney Berman 612
CADW Llafur Chris Bryant 16115
Plaid Cymru Branwen Cennard 4069
Ceidwadwyr Hannah Jarvis 4675
Y Blaid Werdd Shaun Thomas 438
Plaid Brexit John Watkins 3733
Dwyrain Abertawe
Y Blaid Werdd Chris Evans 583
CADW Llafur Carolyn Harris 17405
Plaid Cymru Geraint Havard 1905
Ceidwadwyr Denise Howard 9435
Democratiaid Rhyddfrydol Chloe Hutchinson 1409
Plaid Brexit Tony Willicombe 2842
Gorllewin Abertawe
CADW Llafur Co-op Geraint Davies 18493
Plaid Brexit Peter Hopkins 1983
Democratiaid Rhyddfrydol Michael O’Carroll 2993
Ceidwadwyr James Price 10377
Plaid Cymru Gwyn Williams 1984
Torfaen
Plaid Cymru Morgan Bowler-Brown 1441
Y Blaid Werdd Andrew Heygate-Browne 812
Democratiaid Rhyddfrydol John Miller 1831
Ceidwadwyr Graham Smith 11804
Plaid Brexit David Thomas 5742
CADW Llafur Nick Thomas-Symonds 15546
Dyffryn Clwyd
Plaid Brexit Peter Dain 1477
CIPIO Ceidwadwyr James Davies 17270
Llafur Chris Ruane 15443
Democratiaid Rhyddfrydol Gavin Scott 1471
Plaid Cymru Glenn Swingler 1552
Bro Morgannwg
CADW Ceidwadwyr Alun Cairns 27305
Llafur Belinda Loveluck-Edwards 23743
Y Blaid Werdd Anthony Slaughter 3251
Gwlad Gwlad Laurence Williams 508
Wrecsam
CIPIO Ceidwadwyr Sarah Atherton 15199
Plaid Brexit Ian Berkeley-Hurst 1222
Plaid Cymru Carrie Harper 2151
Y Blaid Werdd Duncan Rees 445
Democratiaid Rhyddfrydol Tim Sly 1447
Llafur Co-op Mary Wimbury 13068
Ynys Môn
Plaid Cymru Aled ap Dafydd 10418
Llafur Mary Roberts 10991
Plaid Brexit Helen Jenner 2184
CIPIO Ceidwadwyr Virginia Crosbie 12959