Mae Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau bod cwsmeriaid Cymraeg yn cael gwasanaeth israddol ganddynt. 

Mewn adroddiad perfformiad sy’n cael ei roi o flaen pwyllgor craffu heddiw (Dydd Mercher, Mehefin 26) mae’r cyngor yn datgelu bod cwsmeriaid dros ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu helpu’n syth os ydyn nhw’n dewis Saesneg yn hytrach na Chymraeg.

Yn sgil hyn mae Cymdeithas yr Iaith yn galw eto am ddiswyddo aelod cabinet Cyngor Wrecsam, Hugh Jones, sy’n gyfrifol am y Gymraeg. 

Targed o 15%

Er bod 30% o staff gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor yn ddwyieithog, mae targed Wrecsam yn parhau i fod ar 15%. 

Mae hyn yn dangos “diffyg llwyr o unrhyw awydd i wella pethau,” yn ôl cadeirydd Cell Wrecsam o’r Gymdeithas Aled Powell. 

Ar ben hynny, mae Comisiynydd y Gymraeg ar ganol ymchwiliad i honiadau bod system ffôn y cyngor weithiau yn gofyn i bobol – wedi iddyn nhw ddewis Cymraeg – naill ai i ddewis Saesneg neu i ffonio nôl rhywbryd eto cyn rhoi’r ffôn lawr arnyn nhw. 

“Eglurder”

Fe ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, yn gynharach yn y mis yn gofyn iddo dynnu cyfrifoldeb dros y Gymraeg oddiar yr aelod cabinet Hugh Jones. 

“Rydyn ni wedi ysgrifennu at y deiliad portffolio sy’n gyfrifol am wasanaethau cwsmeriaid, Cyng. David Kelly, gan fynegi ein pryderon ac yn gofyn am eglurder am rai o’r ffigyrau,” meddai Aled Powell. 

“Rydyn ni’n obeithiol y gwnaiff o ddangos arweiniad gwell na rhai o’i gydweithwyr yn y cabinet a gweithredu er mwyn gwella pethau.”

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones: “Dwi’n gefnogwr brwd o’r iaith Gymraeg. Rwyf wedi cyfarfod gyda’r Comisiynydd Iaith blaenorol a’r un presennol a dwi’n benderfynol y byddwn ni’n cyrraedd y gofynion safonau.”

“Mae fy nghydweithwyr ar draws bob plaid a hyder fy mod i’n  gallu sicrhau llwyddiant.”

Wrth ymateb i’r targed o 15%, meddai: “Y broblem sydd gennym, un dwi wedi gwneud yn glir iawn, yw rydyn ni wedi trio pob ffordd posib i benodi siaradwyr Cymraeg ac fe fydden ni’n parhau i wneud ein gorau.

“Rydyn ni wedi edrych ar gynghorau eraill i weld sut maen nhw’n llwyddo ac rydyn ni yn dilyn esiamplau da o ran sut mae penodi, ac mae’r pleidiau eraill wedi bod yn cefnogi’r gwaith rwyf wedi bod yn gwneud yn Wrecsam.”