Mae dyn 44 oed o Groesoswallt wedi ei gyhuddo gan yr heddlu yn dilyn digwyddiad ger Llyn Efyrnwy ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Ionawr 21).

Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu Dyfed-Powys yn sgil yr anghydfod yn Alltforgan ger Llanwddyn, lle cafodd gwn ei saethu at swyddogion.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Richard Lawrence Alan Barnard yn cynnwys bwriad i beryglu bywyd a throseddau’n ymwneud â gynnau.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug heddiw (dydd Gwener, Ionawr 25).