Mi fydd Cyngor Gwynedd yn talu am fws o Flaenau Ffestiniog i Lanrwst tan ddiwedd y flwyddyn, gan bod “nifer o blant” yn croesi’r ffin o Wynedd i Gonwy i fynychu ysgol uwchradd.

“Er nad yw’n bolisi gan Gyngor Gwynedd i dalu am gludiant i ddisgyblion fynychu ysgolion y tu allan i’r sir, rydym wedi dod i delerau gyda chwmni bws lleol i ariannu’r daith tan ddiwedd mis Rhagfyr,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Trefniant dros dro fydd hyn i osgoi tarfu ar daith plant o’r ysgol ar ganol tymor. Mae Cyngor Gwynedd mewn trafodaeth gyda Chyngor Sir Conwy yn y gobaith o sicrhau trefniant amgen ar gyfer y flwyddyn newydd.”

“Hynod falch”

Mae un o gynghorwyr Blaenau Ffestiniog wedi croesawu’r newyddion.

“Dw i’n hynod falch bod trafodaethau a chydweithio wedi dod a datrysiad am y tro i sicrhau bod y gwasanaeth bws pwysig hwn yn parhau i deithio yn yr ardal,” meddai’r Cynghorydd Annwen Daniels.

Mae parhad y gwasanaeth, meddai, “yn bwysig oherwydd bod nifer o blant yn teithio adref o ysgol uwchradd yn Llanrwst yn ôl i’r Blaenau yn y prynhawn a nifer o bobl leol yn defnyddio’r gwasanaeth i gyrraedd at wasanaethau iechyd, bancio, siopau ac ati.”

Ychwanegodd bod y gwasanaeth yn bwysig iawn i drigolion Blaenau Ffestiniog sy’n teithio i Lanrwst ac ymlaen i Landudno ac yn ôl wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd, gwasanaethau bancio a siopau’r stryd fawr. Mae’r gwasanaeth prynhawn hefyd yn caniatáu i bobl o Ddolwyddelan gyrraedd Meddygfa Blaenau Ffestiniog.

“I rai o drigolion yr ardal, bobl hŷn, trigolion sydd ddim yn gyrru, disgyblion ysgol – mae’r gwasanaeth yma’n un hanfodol,” meddai’r Cynghorydd Annwen Daniels.

“Gyda Blaenau Ffestiniog yn lleoliad byrlymus sy’n denu ymwelwyr i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored, mae’n bwysig sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus yn gallu cyrraedd yr ardal yn gyson yn ystod y dydd i sicrhau hwb i’r economi leol. Mae gwaith o’n blaenau i geisio datrysiad tymor hir i’r mater hwn.”