Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynd yn groes i’r lobïau arfau wnaeth gyfrannu at ei ymgyrch arlywyddol, gan alw am reolau llymach ar berchnogaeth gynnau.

Yn sgil ymosodiad ysgol yn Florida yr wythnos diwethaf gan gyn-ddisgybl, mae Donald Trump wedi galw am wahardd pobol dan 21 rhag bod yn berchen ar reifflau rhyfel.

Mae’r Arlywydd yn mynnu bod lobi bwerus y National Rifle Association (NRA) yn hapus â’i syniad, ond hyd yma dydy’r corff ddim wedi rhoi sylw ar y mater.

Ers y gyflafan yn Parkland lle bu farw 17 o bobol, mae Donald Trump wedi cynnig sawl syniad i fynd i’r afael â phroblem ymosodiadau arfog y wlad.

Mae’r rhain yn cynnwys rhoi gynnau i athrawon, craffu llymach ar gefndiroedd prynwyr gynnau a gwahardd dyfeisiau penodol sy’n gwneud gynnau’n fwy peryglus.