Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn disgwyl i gyngor sir weithredu ar unwaith ar ôl i adroddiad eu beirniadu am eu rhan yn hunan-laddiad llanc oedd mewn gofal.

Roedd adolygiad swyddogol – Adolygiad Ymarfer Plant – wedi tynnu sylw at ddeg o fethiannau yn y ffordd y cafodd achos y dyn 18 oed ei drin gan wahanol asiantaethau wrth iddo baratoi i adael gofal Cyngor Sir Powys a dechrau byw’n annibynnol.

Mae’r Cyngor, yn eu tro, wedi ymddiheuro’n ddiamod am fethu â darparu “cefnogaeth briodol” i’r llanc a’i deulu maeth.

Pryder

“Collwyd bywyd y person ifanc yma yn yr amgylchiadau mwyaf trasig… rydyn ni’n disgwyl i Gyngor Sir Powys weithredu ar yr argymhellion yn yr adolygiad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor eisoes yn gweithredu cynllun i wella’i wasanaethau ar ôl i’r Arolygaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol feirniadu ei wasanaethau plant.

Yn yr achos yma, roedd y dyn ifanc a’i deulu maeth wedi mynegi pryder wrth iddo adael y gwasanaethau gofal ac mae’r adolygiad yn argymell y dylai’r cyngor ddelio’n fwy sensitif gyda theuluoedd ‘heriol’.