Mae disgwyl i’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell gael ei ddedfrydu heddiw ar ôl i lys ei gael yn euog o 36 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant.

Ond mae’r rheithgor yn dal i ystyried saith cyhuddiad arall ac mae’r barnwr wedi dweud ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad mwyafrif ar y rheiny.

Ddoe fe gafwyd y dyn a fu’n hyfforddwr ar sêr ifanc fel cyn-reolwr Cymru, Gary Speed, yn euog o gyfres o droseddau yn ymwneud â chamdrin rhywiol yn erbyn 10 o fechgyn rhwng 1979 ac 1990.

Mae rhai i’r saith cyhuddiad arall yn ymwneud ag unfed plentyn ar ddeg.

Honiadau

Clywodd Llys y Goron Lerpwl fod Barry Bennell, sydd bellach yn cael ei adnabod wrth yr enw Richard Jones, wedi gwahodd bechgyn i’w gartref, lle bydden nhw’n chwarae pŵl a gemau cyfrifiadurol, ac yn edrych ar ei gasgliad o anifeiliaid ecsotig.

Yn ôl yr heddlu, roedd e wedi denu bechgyn i’w gartref a’u cam-drin, ond roedd yn honni eu bod nhw’n ceisio cyhoeddusrwydd drwy ei gyhuddo.

Roedd un o’r rhai a gafodd eu cam-drin ganddo wedi dweud yn ystod yr achos ei fod e’n gwybod am bedwar o fechgyn oedd wedi lladd eu hunain ar ôl cael eu cam-drin gan Bennell – a chyn-reolwr Cymru, Gary Speed yn un ohonyn nhw.

Fe fu Bennell dan glo dair gwaith o’r blaen am droseddau tebyg yn erbyn 17 o fechgyn.

Y tro hwn, fe blediodd yn euog i saith cyhuddiad o gam-drin tri o fechgyn yn anweddus.