Ifan Morgan Jones sy’n diawlio’r glaw yn y Celtic Manor…
Mae yna ddau ffordd o edrych ar bethau, amwn i. Mae’n bwrw’n drwm ar y Celtic Manor ar y funud a mae hynny’n awgrymu y bydd rhaid ymestyn y Cwpan Ryder tan y dydd Llun am y tro cyntaf yn ei hanes 83 mlynedd. Byddai hynny yn golygu bod Cymru yn cael mwynhau diwrnod ychwanegol o’r gystadleuaeth am ei fuddsoddiad £40 miliwn. Every cloud has a silver lining, ys dywed y Sais, ac mae yna ddigon o gymylau dros y Celtic Manor ar hyn o bryd.
Tiger Woods yn y glaw… Sai’n gwybod beth sy’n digwydd nawr… (Llun PA)
Y ffordd arall o edrych ar bethau ydi mai holl bwynt y gystadleuaeth oedd gwneud i Gymru edrych yn dda. Fel y mae hi rydan ni wedi llwyddo i gadarnhau pob ystrydeb am y tywydd yng Nghymru am flynyddoedd i ddod. Ydi, mae’n bwrw ar draws y rhan fwyaf o weddill Prydain heddiw hefyd, ond dyw hynny heb atal y cyfryngau rhag cyfeirio ar y glaw fel ‘the Welsh weather’.
Fel y dywedais i’r wrth drafod Gemau’r Gymanwlad yr wythnos diwethaf, os ydach chi’n gwahodd chwyddwydr y byd arnoch chi’ch hun, gwnewch yn blydi siwr nad oes dim byd yn mynd o’i le. Yn wahanol i Gemau’r Gymanwlad does neb ar fai am y glaw ar y Celtic Manor. (Serch hynny, fel y gofynodd Tony Jacklin bore ma, syniad pwy oedd cynnal y gystadleuaeth mor hwyr yn y flwyddyn?) Ond mae’n dangos bod hyd yn oed £40 miliwn a’r holl gynllunio gofalus yn y byd ddim yn gallu atal cawlach, a bod gwario cymaint ar unrhyw ddigwyddiad mawr yn dipyn o gambl.