Mae diffyg pwll nofio 50 metr yn y gogledd yn rhoi nofwyr sydd o ddifri am y gamp o dan anfantais sylweddol wrth orfod teithio i’r de neu i Loegr i ymarfer a chystadlu, yn ôl tad un nofiwr o’r gogledd.

“Ar hyn o bryd mae dwy eitem gynllunio yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn y camau cynnar y gellid eu haddasu ac o bosibl gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru / Preifat a allai gynnwys pwll 50m,” meddai Aled Griffith, y mae ei fab Gruff Rhys yn aelod o Nofio Gwynedd a Sgwad Cymru.

“Mae un ardal ychydig tu allan i Gaernarfon (drws nesaf i Blas Menai).

“Mae cynlluniau yn y cyfnod cynnar i adeiladu parc gwyliau (Gwel y Fenai) gan gwmni preifat ar hen safle diwydiannol.

“Bydd gan barc tebyg i Center Parcs bwll ar y safle.

“A allai’r pwll hwn fod yn bwll 50 metr, a byddai’r ganolfan yn cynnig llety i bob nofiwr / teulu?

“Mae safle arall yn y cyfnod cynllunio cynnar – safle Coleg Llandrillo Menai yn Llangefni.

“Mae cynlluniau yma i adeiladu neu addasu’r cofadeiladau chwaraeon presennol yn barod ar gyfer Gemau’r Ynysoedd yn 2025.

“A allai’r cofadeiladau chwaraeon hyn gael pwll 50m?”

‘Haws’

Mae Gruff Rhys yn dweud bod Nofio Cymru wedi cael eu gorfodi i ohirio Pencampwriaeth Genedlaethol Nofio Cymru 2023 yn ddiweddar.

“Byddai cael pwll nofio 50 metr yn y gogledd yn helpu, oherwydd ni fyddai rhaid i ni deithio gymaint i fynd i Sheffield, Abertawe a Chaerdydd, a hefyd i hyfforddi yn Stockport neu Manceinion,” meddai.

“Mae’n haws i ni gael un yn y gogledd.

“Bysa bob un clwb yn y gogledd yn dod yna i ymarfer.

“Mae peidio cael pwll 50 metr yn amharu ar fy ngyrfa i ychydig bach, oherwydd rydym angen dod i arfer efo pwll 50 metr cyn mynd mewn i gystadlaethau.

“Dydw i ddim yn ffeindio fy mod wedi blino gymaint â hynny o deithio i ymarfer mewn pwll 50 metr oherwydd rwy’ wedi arfer.

“Ond mae o’n llawer o amser mewn car yn ogystal â dod i Gaernarfon bob dydd.

“Mae Gwynedd yn ymarfer yng Nghaernarfon.

“Roeddwn yn siomedig bod y Gala wedi ei chanslo oherwydd roeddem wedi hyfforddi i ddim byd.

“Mae pob gala yn costio £700- £1,000 os ti’n mynd am y pedwar diwrnod.

“Os ti’n mynd am y ddau ddiwrnod, mae dal yn tua £500.”

Ymrwymiad i nofwyr ifanc a’r teulu

Mae Gruff Rhys yn nofio 14 awr bob wythnos ac yn treulio dwy awr yn y gampfa, naill ai yng Nghaernarfon neu ym Mangor.

Mae’n cyrraedd y gampfa yn oriau man y bore ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener ac yn gorffen erbyn 8 o’r gloch i fynd yn ôl adref i Dremadog i gael brecwast cyn mynd i’r ysgol.

Ar ôl dod adref o’r ysgol, mae’n gadael Porthmadog am 4 o’r gloch i fynd i’r pwll am ddwy awr rhwng 5 o’r gloch a 7 o’r gloch.

Mae’n treulio awr yn y gampfa yng Nghaernarfon bob dydd Gwener rhwng 4 o’r gloch a 5 o’r gloch, ac yna dwy awr yn y pwll rhwng 6 o’r gloch ac 8 o’r gloch.

“Mae costau teithio a hyfforddiant mewn pyllau 50 metr i nofwyr y gogledd – mae Porthmadog i Lerpwl yn ddwy awr – 82 milltir un ffordd,” meddai.

“Mae Porthmadog i Stockport yn ddwy awr ac ugain munud (107 milltir un ffordd).”

Eglura fod oddeutu wyth gala nofio bob tymor, pump yn Abertawe a thair yn Sheffield, a’i bod hi’n costio tua £10 bob ras, gyda thua deg ras ym mhob gala.

“Mae tocyn oedolyn i wylio £8 bob diwrnod, gwesty’n £100 y noson am dair neu bedair  bob gala, petrol, bwyd ac ati…”