Mae un o drefnwyr y Plygain yn Llanllyfni, sydd wedi’i gynnal ers canrifoedd, yn dweud na fyddan nhw “fyth eisiau i’r Plygain orffen”.

Mae’r Plygain yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Rhedyw am saith o’r gloch bob bore Nadolig.

Gwasanaeth traddodiadol wedi’i gynnal yn y bore ydi’r Plygain, lle daw unigolion, deuawadau, grwpiau a theuleuoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i berfformio.

Yn draddodiadol, roedd gorymdaith gyda chanhwyllau at yr eglwys yn rhan bwysig o’r Plygain, ac mae’n rhan bwysig o draddodiad Llanllyfni erioed.

Roedd yn arfer bod am chwech o’r gloch yn yr hen ddyddiau, ac yn “unbroken tradition”, yn ol y Caernarvon and Denbigh Herald ar Ionawr 11, 1946.

Dydy’r traddodiad hwn erioed wedi marw, ac mae’n mynd ers o leiaf 200 o flynyddoedd, gan gynnwys dau ryfel byd a phandemig.

Un o drefnwyr y Plygain yw Laurina Hughes.

“I ni’n bersonol yn Llanllyfni, fyddan ni byth eisiau i’r Plygain orffen,” meddai wrth golwg360.

“Mae o’n ran bwysig o’n bywydau ni.

“Bydda i’n mynd tua pedwar, pump y bore i roi y gwres ymlaen.

“Rydan ni’n sefyll yn y drws i groesawu pawb. Mae o’n gychwyn da i ddiwrnod Nadolig.”

Y pandemig a galar wrth golli rheithor

Dywed Laurina Hughes fod Plygain Llanllyfni wedi goroesi pandemig a marwolaeth rheithor dros y blynyddoedd diwethaf.

“Wnes i fynnu mynd i’r eglwys yn ystod y pandemic, ar fore Nadolig jest i ddweud nad ydi o erioed wedi cael ei dorri,” meddai.

“Dw i ddim yn meddwl oedd yna fawr o neb Nadolig cynta’r pandemig.

“Yr ail un, mi wnes i gyrraedd y giât a chlywed sŵn y canu carolau yma.

“Roedd yna fam, Llinos Parry, a’i merch Lleucu yn eistedd tu allan yn disgwyl i’r drws gael ei agor.

“Roeddent yn eistedd yna’n canu efo canhwyllau.

“Mi oeddan ni’n yr eglwys ar ddechrau y pandemig yn gorfod bod yn gyfrifol am farcio seddi ble roedd pobol yn cael eistedd.

“Ar y pryd, y Parchedig Lloyd Jones oedd y rheithor, ac ro’n ni’n bryderus am sut oeddan ni am gynnal y Plygain.

“Roeddwn yn bryderus ein bod ni am dorri ar draddodiad mor hirfaith.

“Wnes i ofyn wrtha fo, ‘Sut rydym yn mynd i ddelio efo’r Plygain?’

“Dyma fo’n dweud, ‘Peidiwch â phoeni dim, fe â i i’r eglwys ac fe wna i ei recordio a’i roi yn rhithiol i bobol, achos dydw i ddim eisiau bod yn gyfrifol am dorri traddodiad mor hir’, a wnaeth o chwerthin.

“Yn anffodus iawn, ar dechrau’r mis hwnnw, fe fuodd o farw’n sydyn. Ddaru ni golli fo.

“Roedd o wedi edrych ymlaen gymaint at gynnal y Plygain.

“Mae’n stori drist iawn.

“Fe es i i agor y drysau beth bynnag, i sicrhau ein bod ni’n gallu cofnodi bod y Plygain wedi ei gynnal.”

Sut bobl sy’n cymryd rhan yn y Plygain?

Mae beirdd wedi cymryd rhan yn y Plygain yn draddodiadol, ac yn dal i wneud hyd heddiw.

Roedd y clochydd Robert Ellis, Llyfnwy, yn perfformio ac roedd wedi ysgrifennu Lloffion Awen Llyfnwy gafodd ei gyhoeddi yn 1852, a hwnnw’n gasgliad o’i gerddi.

“Mi oedd gennym ni glochydd ers talwm yn Llanllyfni,” meddai Laurina Hughes.

“Roedd wedi bod yn glochydd am 42 o flynyddoedd.

“Roedd yn fardd a englynwr.

“Byddai pobol fel fo’n sgwennu carolau yn arbennig ar gyfer y Plygain.

“Eleni, rydan ni’n mynd i noddi bardd lleol i sgwennu cerdd ar y Plygain.

“Mae yna ddau neu dri o feirdd enwog yn dod i’r Plygain, yn bobol sy’n gallu sgwennu.

“Mae hwnna’n rywbeth rydym ni’n teimlo y gallwn ei gyfrannu i hanes y Plygain.”

‘Byth yn gwybod pwy sydd am gymryd rhan’

Felly, sut beth ydi’r Plygain a beth sydd yn digwydd?

“Dyma’r tro cyntaf erioed i ni gael dynas fel rheithor,” meddai Laurina Hughes am y Parchedig Ganon Dr Rosemary Dymond.

“Hi ydi’r ddynas gyntaf i roi gwasanaeth yn eglwys Llallyfni.

“Mae hi yn agor.

“Rydym yn canu carol, mae hi yn dweud ychydig bach o weddïau a wedyn mae hi yn eistedd lawr a dweud, “Mae’r Plygain ar agor.”

“Mae pwy bynag sydd eisiau cymryd rhan yn cerdded i fyny, dwyt ti ddim yn gorfod trefnu na dim byd fel hynny.

“Dydan ni byth yn gwybod pwy sydd am gymryd rhan.

“Mae o’n cryfhau bob blwyddyn, mae o’n deimlad braf.

“Ti’n cerdded mewn i’r eglwys ac mae hi’n hollol dywyll, mi fyddan ni’n addurno canhwyllau yn bob man a chanhwyllau ar hyd y llwybr, a drws yr eglwys.

“Pan wyt ti’n cerdded i mewn, mae hi’n hollol dywyll, pan mae’r gwasanaeth yn gorffen mae hi wedi gwawrio.”

Teuluoedd yn dod o bell

“Ychydig cyn y Covid, gaethon ni deulu o’r Iseldiroedd ar eu gwyliau’n troi i fyny,” meddai Laurina Hughes wedyn.

“Ddaru nhw ganu carol i ni yn eu hiaith eu hunain.

“Rydym yn eglwys ddynodedig Gymreig, nid ydym yn cael gwasanaethau Saesneg o gwbl.

“Rydym yn cael pobol yn dod o Benllyn, rydym wedi cael pobol yn dod o Sir Fôn.

“Dydach chi byth yn gwybod pwy sydd am droi i fyny.”

Dyfodol y Plygain

Beth am ddyfodol y Plygain, felly?

“Ar hyn o bryd mae’n edrych yn addawol,” meddai Laurina Hughes.

“Rwy’n gobiethio na fydd dim yn digwydd i’r eglwys.

“Mae’r niferoedd ym mhob man.

“Nid eglwyswyr ydi’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n dod i’r Plygain. Maen nhw’n bobol capeli.

“Mae’n agored i rywun sydd eisiau dod, dydan ni ddim yn ddibynnol ar eglwyswyr.”

Mae’r Plygain yn cael ei gynnal mewn rhannau eraill o Gymru, ond a oes gwahaniaeth mewn gwahanol ardaloedd?

“Rwy wedi byw ym Mhowys,” meddai.

“Rwy wedi bod yn y Plygeiniau sydd yno, ond dydyn nhw ddim yn digwydd ar fore Nadolig.

“Dwi’n meddwl bo fi’n gywir yn dweud mai ni ydi’r unig eglwys drwy Gymru gyfan sy’n cynnal Plygain ar fore Nadolig.

“Mae plygeiniau mawr ym Mhowys yn digwydd gyda’r nos.

“Mae gennyn nhw galendr achos mae yna gymaint ohonyn nhw.

“Y traddodiad i ni ydi’n bod ni wedi wneud o fore Nadolig.

“Roedd o am chwech o gloch bore ar un adeg. Saith ydi o rwan ers blynyddoedd lawer.”

Ar hyn o bryd, mae Laurina Hughes yn casglu atgofion pobol am yr hyn maen nhw’n ei gofio am y Plygain yn y blynyddoedd a fu.

Mae hi am gael mwy o hanes y Plygain yn yr Archifdy.

Os oes gennych stori, e-bostiwch Laurina Hughes: laurinahughes@hotmail.co.uk