Mae’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni wedi cael eu cyhoeddi heddiw  (dydd Iau, Mehefin 30).

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd 18 o ddysgwyr eu cyfweld eleni, gyda rhai o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu. Y pedwar sydd wedi dod i’r brig ydy Stephen Bale o Fagwyr, Joe Healy o Gaerdydd, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth, a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Beirniaid y rownd gynderfynol oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes ac Angharad Prys. Bydd Geraint Lloyd yn cymryd lle Angharad ar y panel ar gyfer y rownd derfynol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.

Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon eleni’n uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis wyth i fynd yn eu blaenau i’r rownd derfynol.

Dyma ychydig o hanes y pedwar a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf…

Stephen Bale

Yn wreiddiol o ardal Castell-nedd, mae Stephen yn byw ym Magwyr, Sir Fynwy erbyn hyn ac wedi ymddeol fel gohebydd rygbi i’r papurau yn Llundain a phapurau ar draws de Cymru.

Roedd Stephen wastad yn teimlo ei fod wedi colli rhywbeth arwyddocaol drwy beidio gallu defnyddio ein hiaith, ac roedd yn gwybod y byddai’n troi at y Gymraeg yn y pen draw.

Dechreuodd ddysgu ar ddiwedd y 70au ond roedd bywyd yn brysur a’i swydd yn golygu llawer o deithio, felly, yn syth ar ôl ymddeol, cafodd gyfle i ail-afael yn yr iaith ac ymunodd â dosbarth dan ofal Dysgu Cymraeg Gwent, ac ymhen dim o dro, roedd wedi cyrraedd lefel Uwch.

Mae Stephen wrth ei fodd yn defnyddio’i Gymraeg ac yn annog eraill i siarad yr iaith. Mae wedi cefnogi dysgwyr eraill drwy’r Prosiect Siarad yng Ngwent, ac mae’n ymddiriedolwr gyda’r Fenter Iaith leol ac yn gwirfoddoli yn y ganolfan Gymraeg leol.

Mae’n gweld llawer o bosibliadau i ddefnyddio’r Gymraeg yn ardal Sir Fynwy, ac mae’n awyddus i barhau i ddysgu a chefnogi dysgwyr eraill yn y dyfodol.

Joe Healy

O Wimbledon ddaw Joe Healy yn wreiddiol, a daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynu aros yn y brfddinas.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn heddiw mae’n siarad Cymraeg yn gwbl hyderus, gan ei defnyddio yn gymdeithasol ac yn y gwaith.  Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Mae Joe’n angerddol dros y Gymraeg a Chymru, ac yn awyddus i weld ein hiaith yn ffynnu yn y dyfodol.  Mae hefyd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

Ben Ó Ceallaigh

Daeth Ben i Gymru o Iwerddon heb wybod gair o Gymraeg ac, ymhen blwyddyn, roedd yn darlithio ar bynciau astrus ac ysgolheigaidd yn y Gymraeg.

Ymunodd â gwersi Dysgu Cymraeg yn ystod haf 2021, ac ers hynny, mae wedi bod yn dysgu mewn dosbarth sy’n cyfarfod tair gwaith yr wythnos.

Mae’n mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn ei waith, ac mae ganddo’r ddawn i danio brwdfrydedd eraill gan roi’r hyder a’r awydd iddyn nhw fynd ati i ddysgu Cymraeg.

Dysgu ein hiaith er mwyn ei defnyddio gwnaeth Ben ac mae’n ysbrydoli pawb o’i gwmpas gan ddangos beth sy’n bosib o fewn byr amser.

Mae gan Ben ddiddordeb mawr yn y cysylltiad rhwng argyfwng hinsawdd ac argyfwng ieithoedd lleiafrifol y byd, ac mae’n trafod hyn ar bodlediad ‘HEFYD’, gan sôn am yr hyn sydd angen ei wneud i sicrhau nad yw buddiannau lleiafrifoedd yn cael eu sathru ar gost i’r blaned gyfan.

Sophie Tuckwood

Symudodd Sophie i Hwlffordd o Nottingham, ac erbyn hyn mae hi’n fam i ddau o blant bach.

Ar ôl mynychu sesiynau Clwb Cwtsh a Chymraeg i Blant, penderfynodd Sophie gorestru ar gwrs Cymraeg i’r Teulu gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, am ei bod am sicrhau bod ei phlant yn mynd i gael addysg Gymraeg.

Mae dysgu Cymraeg wedi newid agwedd Sophie at ieithoedd yn gyffredinol, ac erbyn hyn mae’n dilyn cwrs gradd meistr mewn Ieithyddiaeth, ac mae hi hefyd yn dysgu pum dosbarth Mynediad yn lleol, a newydd gwblhau cwrs Dechrau Dysgu.

Mae hi’n mynychu cwrs Uwch 2 Rhan 2 ar hyn o bryd, a bydd yn symud i astudio cwrs Uwch 3 ym mis Medi.

Mae agwedd Sophie at ein hiaith a’i hymroddiad i ddysgu ac i helpu eraill i ddysgu wedi ysbrydoli ei theulu a dysgwyr ar draws Sir Benfro.

  • Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn am 15:00, ddydd Mercher 3 Awst.  Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, ewch i www.eisteddfod.cymru.