Ddydd Sadwrn (Mehefin 25), fe ddaeth dwy nyrs i ben eu taith 85 milltir ar hyd yr arfordir i godi arian ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Mae’r hyn ddechreuodd fel sgwrsio am ffyrdd o golli pwysau rhwng dwy ffrind wedi dod i ben drwy godi bron i £3,500 fel rhan o apêl Ysbyty Bronglais er mwyn trawsnewid yr uned cemo yno.

Mae’r ysbyty wedi sicrhau £1.7 miliwn o’r £2.2 miliwn sydd ei angen i adeiladu uned cemotherapi newydd, gan olygu fod £500,000 ar ôl i’w gasglu.

Felly fe aeth Rhian Jones ac Eirian Gravell ati i drefnu taith gerdded i helpu’r achos.

Yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin, fe gerddodd y ddwy dros 40 milltir o Aberteifi i Aberporth, Aberporth i Gei Newydd a Chei Newydd i Lanrhystud.

Yna yn ystod ail wythnos Mehefin, fe gerddodd y ddwy 40 milltir arall cyn gorffwys cyn cwblhau’r 5 milltir olaf.

Fe gyflawnodd y ddwy’r pum milltir olaf ddydd Sadwrn (Mehefin 25), wrth i ddwsinau o gefnogwyr ymuno â nhw i gerdded o’r Borth i’r Bandstand yn Aberystwyth.

Mae gŵr Rhian, Dafydd, a gŵr Eirian, Huw, wedi ymuno â’r ddeuawd ar rai o’r teithiau, sydd wedi bod yn gefnogaeth enfawr, yn ôl y ddwy.

Angen uned ‘mwy addas i bwrpas’

Mae’r apêl yn galw ar y cyhoedd i helpu i godi’r arian a fyddai’n eu galluogi i adeiladu cyfleuster modern sy’n addas ar gyfer y dyfodol er mwyn gwella profiad claf.

“Beth ry’n ni’n codi arian am yw be sydd angen tu mewn os chi’n licio, y moethusrwydd,” meddai Rhian.

“Er mwyn gwneud o’n fwy addas i bwrpas, nid yn unig i’r cleifion ond hefyd i pan mae eu teuluoedd nhw neu eu gofalwyr nhw yn dod gyda nhw i gael eu triniaeth – iddyn nhw gael cysur eu hunain,” meddai Eirian.

“Felly mae o’n fwy nag uned i drin cleifion.

“Yn aml, does dim lle ganddom yn yr ysbyty i weld cleifion na meddygon sy’n arbenigo yn y math o ganser ry’n ni’n trin.

“Mae angen adran fel sydd yn yr ysbytai mawr lle mae popeth o dan un to, lle mae meddygon arbenigol, nyrsys arbenigol a staff dan un to,” meddai Rhian.

“Mae angen i’n cleifion ni allu gweld pwy maen nhw angen gweld heb orfod mynd o le i le.

“Mae angen adran amlbwrpas.”

Codi proffil Bronglais

Buodd y daith gerdded hefyd yn llwyddiannus wrth godi proffil yr ysbyty, meddai Eirian.

“Mae mwy o bobol nawr yn ymwybodol ein bod ni yn ymdrechu i godi arian,” meddai.

“Mae fe’n ardal eang a dyden ni ddim yml ysbyty arall ac mae yna gleifion o dde Gwynedd a gogledd Powys ac o Geredigion yn gorfod dod yma,” meddai Rhian.

“Mae’n bwysig eu bod nhw’n cael triniaeth yn agos i’w cartref, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r adrannau yma i fynd.

“Dyden ni heb gael adran addas yma ym Mronglais er mai yn fan yma oedd yr uned cemotherapi cyntaf yn y gorllewin,” meddai.

“Mae angen cofio ein bod ni yma ym Mronglais,” meddai Rhian.

Blas am godi arian

Er nad yw’r ddwy wedi mentro gyda sialens debyg o’r blaen, maen nhw’n dweud eu bod nhw nawr wedi cael blas ar godi arian trwy fod yn actif.

“Mae tipyn o arian dal i godi a ni heb gyrraedd y nod o bell ffordd ond mae pawb yn y gymuned yn brysur yn ymroi,” meddai Rhian.

“Felly mae’r arian yn dod i mewn ond pwy a ŵyr?

“Falle fe gawn ni gwpwl o fisoedd ffwrdd cyn penderfynu beth i wneud nesaf,” meddai.

Mae’n bosib cyfrannu at yr achos yma.