Bydd Wrecsam yn gartref i ŵyl ddiwylliant pêl-droed ar drothwy Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Bydd Gŵyl Wal Goch yn dridiau o ddathlu a fydd yn cael ei gynnal ar Dachwedd 11-13 gan y trefnwyr, Expo’r Wal Goch.

Bydd enwau adnabyddus o fyd pêl-droed yn ymgasglu yn Wrecsam, sef “cartref ysbrydol” y gêm Gymreig, i ddathlu a thrafod diwylliant pêl-droed Cymru.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Expo’r Wal Goch, Russell Todd, ei fod yn gobeithio gall hyn fod yn “flas o fwrlwm Cwpan y Byd sy’n cynnig rhywbeth i’r rheiny sydd ddim eisiau neu methu fforddio mynd”.

Rhoi llais i’r cefnogwyr

Yn ôl Russell Todd, fe wnaeth e a Tim Hartley sefydlu’r fenter gymdeithasol er mwyn defnyddio pêl-droed yng Nghymru fel grym er daioni cymdeithasol.

“Mae llawer o bobol, llawer o fudiadau, a llawer o glybiau, wrth gwrs, yn gwneud lot o dda gyda’r gêm,” eglura wrth golwg360.

“Ond mae llawer o fentrau eraill yn digwydd ar wahân, ac ro’n i’n meddwl bod lot o botensial i dyfu capacity y bobol sydd gyda brwdfrydedd dros y gêm, er mwyn gwneud pethau yn gryf ar gyfer y gymdeithas.

“Mae’r syniad wedi bod mor boblogaidd gyda phobol, a hefyd gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru, clybiau a sefydliadau.

“Felly mae’r syniad wedi tyfu,” meddai Russell.

Ym mis Mehefin y llynedd, fe wnaeth y trefnwyr gynnal Expo cyntaf y fenter, ond yn anochel, roedd rhaid iddo ddigwydd ar-lein.

“Rydyn ni wedi edrych, ar ôl y pandemig, be rydyn ni’n gallu gwneud wyneb yn wyneb, a sut mae pethau fel hyn yn gallu tyfu i gael mwy o effaith.

“Mae o’n gyfle hefyd jest i ofyn i gefnogwyr be chi eisiau gwneud trwy’r gêm a gyda’r gêm sydd yn mynd tu hwnt i jest gwylio gemau a mynd i gemau, achos heb gefnogwyr, does dim gêm.

“Dyna be ddangosodd y pandemig pan doedd ddim cefnogwyr yn eisteddle’r gemau,” meddai.

Cwestiynu Qatar fel gwesteiwr

Mae’r trefnwyr hefyd yn gobeithio defnyddio’r ŵyl i roi sylw i’r problemau maen nhw’n teimlo sy’n gysylltiedig â chynnal Cwpan y Byd yn Qatar.

“Mae’r rhesymau pam mae Cwpan y Byd yn cael ei gynnal yn Qatar yn hollol, hollol ofnadwy,” meddai Russell.

“Fi’n adnabod ychydig o bobol sydd ddim eisiau mynd o ran egwyddor a fi’n adnabod llawer o bobol hefyd sydd methu fforddio mynd.

“Mae’n bwysig i ddefnyddio’r gêm a’r ŵyl fel llwyfan i’r cefnogwyr siarad am hyn gyda chefnogwyr eraill trwy sianeli mae cefnogwyr yn rheoli.

“Mae o’n llwyfan i gefnogwyr allu dweud ‘Dydyn ni ddim eisiau Cwpan y Byd arall yn mynd i wladwriaeth ofnadwy fel Qatar yn y dyfodol, a dydyn ni ddim eisiau gweld patrwm yr Ewros, fel y llynedd, sydd gydag effaith amgylcheddol ofnadwy wrth i gefnogwyr groesi ar draws cyfandir i wylio gemau’.

“Mae llais y cefnogwyr yn eithaf bach yn anffodus ond bydden ni’n gallu tyfu hyn trwy’r ŵyl,” meddai.

Dysgu gan wledydd eraill

Canolbwynt arall yn yr ŵyl yn Wrecsam fydd edrych ar y gêm yn rhyngwladol er mwyn archwilio’r ochr amgylcheddol.

“Mae clwb pêl-droed yn Nulyn sydd gyda rhyw fath o swyddog argyfwng yr hinsawdd ac maen nhw eisiau trio bod y clwb cyntaf yn y byd i fod yn garbon sero.

“Felly, be yda ni’n gallu dysgu o hynny?

“Sut mae cefnogwyr sydd gyda conscience amgylcheddol yn gallu bod yn hyderus eu bod nhw ddim yn cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd pan maen nhw’n trafeilio bant i weld Cymru’n Azerbaijan neu ble bynnag?

“Ond rydyn ni eisiau gweld cefnogwyr yn cynghori cefnogwyr eraill, felly sut ydyn ni’n gallu creu’r newid rydyn ni eisiau gweld mewn cymdeithas ein hunain?”