Mae mwy o alw am gymorth banciau bwyd yn sgil yr argyfwng costau byw yn golygu fod prinder eitemau i’w rhoi, meddai un banc bwyd.

Yn ôl Banc Bwyd Arfon, maen nhw’n brin o bob math o eitemau ar hyn o bryd wrth i fwy o bobol fod angen eu cymorth ac wrth i lai o bobol allu fforddio cyfrannu at y banc.

“Yn ystod y pandemig, gwelsom ni lot o bobol yn rhoi i’r banc bwyd, yn rhoi bwyd yn y siopau a hefyd yn rhoi arian,” meddai Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon wrth golwg360.

“Yn ddiweddar efo’r costau byw yn cynyddu rydyn ni’n gweld llai o roddion felly rydyn ni wedi defnyddio’r hyn wnaethon ni hel yn ystod y pandemig.

“Ar y funud mae popeth yn rhedeg yn isel ond pasta a ffa pob.

“Y pethau rydan ni angen fwyaf yw tuniau cig, tuniau ffrwythau, tuniau cawl, llefrith UHT a siwgr hyd yn oed.”

Costau byw yn newid y ffordd o goginio

Mae’r banc bwyd yn dweud eu bod nhw’n cael mwy o sgyrsiau erbyn hyn am sut i goginio bwyd gan fod prisiau defnyddio offer cegin allan o gyrraedd rhai.

“Weithiau rydan ni’n cael pobol sy’n byw mewn carafanau ac os does dim nwy ar ôl ganddyn nhw i goginio, mae’n rhaid i ni feddwl yn wahanol,” ychwanegodd Trey McCain.

“Neu yn aml iawn dyddiau yma rydan ni’n cael pobol sydd mewn gwestai a dim ond efo tegell, felly mae’n rhaid i ni gael pethau fel Pot Noodle i roi iddyn nhw.

“Mae sut mae rhywun yn paratoi bwyd yn cyfyngu ar sut a beth fedrwn ni roi iddyn nhw.”

Galw am wirfoddolwyr

Mae Banc Bwyd Arfon hefyd yn galw am wirfoddolwyr cyn eu casgliad bwyd blynyddol o Tesco ar ddiwedd y mis (Mehefin 30 – Gorffennaf 2).

“Efo prisiau bwyd ac ynni yn neidio i fyny, bydd y casgliad yma yn ein helpu ni i hel rhoddion hanfodol ar gyfer ein pecynnau bwyd argyfwng i bobol Arfon,” meddai Trey McCain.

“Pan rydyn ni’n cynnal casgliad dyna pryd rydyn ni angen lot o bobol i ddod i mewn ar wahanol adegau trwy gydol y dydd.

“Ond os does gan rywun ddim yr arian i allu rhoi, efallai fod ganddyn nhw’r amser ac eisiau gwirfoddoli efo’r banc bwyd. Dyna ffordd arall o helpu ni.

“Rydyn ni’n cael pob math o help gan bobol. Rydyn ni’n reit ffodus.

“Ond mae beth sy’n digwydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar bawb.”

Mae un o Aelodau’r Senedd Plaid Cymru eisoes wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gymryd camau i hyrwyddo gwirfoddoli er mwyn sicrhau bod banciau bwyd mewn gwell sefyllfa i ddelio â’r galw cynyddol.

“Ychydig wythnosau’n ôl, ymwelais â banc bwyd Rhisga, ynghyd â’m cydweithiwr o Blaid Cymru, Delyth Jewell,” meddai Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

“Yno, clywsom am y galw cynyddol am eu gwasanaethau, nad yw’n syndod o gwbl gyda’r argyfwng costau byw sy’n parhau ledled Cymru ac sy’n effeithio ar ein cymunedau.”