1855 oedd y flwyddyn, a Phrydain yng nghanol berw rhyfel y Crimea, pan gafodd dau bapur newydd hanesyddol eu sefydlu, y naill yng Nghaernarfon a’r llall yn Lerpwl.

Daeth Yr Herald Cymraeg a’r Liverpool Daily Post i chwarae rhan amlwg ym mywyd gogledd Cymru am y ganrif a hanner ddilynol, gyda’u llwybrau’n croesi nes iddynt uno yn y diwedd.

I fod yn fanwl gywir, mae’r ddau bapur wedi peidio â bod bellach – daeth argraffiad Lerpwl o’r Daily Post i ben yn 2013, a phapur i ogledd Cymru yn unig ydyw bellach. Nid yw’r Herald Cymraeg yn bod fel papur annibynnol ers iddo gael ei ymgorffori fel rhan o’r Daily Post yn 2004.

Fel un a fu’n olygydd yr Herald Cymraeg yn yr 1990au, rhaid imi ddweud fod gen i deimladau cymysg o weld y papur yn troi i fod yn atodiad. Roedd ei golli fel papur annibynnol yn sicr yn arwydd o ddirywiad pellach yn y wasg Gymraeg; ar y llaw arall, roedd yn golygu ei fod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach nag o’r blaen. Y slogan ar deitl yr atodiad oedd ‘parhau’r traddodiad’.

Dros y misoedd diwethaf, fodd bynnag, mae colofnwyr a darllenwyr yr Herald wedi mynd yn fwyfwy amheus o ymrwymiad perchnogion y Daily Post i wireddu’r amcan hwn.

Gyda nifer y tudalennau’n lleihau, roedd argraff gyffredinol o ddirywiad parhaus, a lle gynt y byddai llythyrau gan ddarllenwyr yn cynnal trafodaeth fywiog, roedd hynny wedi dod i ben – gyda diffyg anogaeth na chyfeiriad i anfon llythyrau yn cael y bai. Gwendid mawr arall yw nad yw’r erthyglau i’w gweld ar wefan y papur. Mae tudalen Facebook gan yr Herald Cymraeg, ond nid ymddengys bod dim wedi ei phostio arni ers 2018.

Ar ôl ymgyrch i roi pwysau ar y cwmni i roi mwy o chwarae teg i’r Gymraeg, gan gynnwys galwad gan yr Archdderwydd am dudalen Gymraeg bob dydd, mae’r cwmni bellach wedi cyhoeddi bwriad i gyhoeddi cylchlythyr newyddion Cymraeg.

Mewn llythyr at y rhai a ysgrifennodd atynt i ddatgan eu pryder, meddai golygydd y Daily Post, Dion Jones:

“Rydym ar hyn o bryd yn rhoi cynlluniau mewn lle i lansio gwasanaeth cylchlythyr dyddiol Cymraeg newydd sbon – y cyntaf o’i fath yma yng Nghymru. Bydd y cylchlythyr yn cynnwys eitemau newyddion sy’n canolbwyntio ar fywyd, diwylliant, treftadaeth a materion cyfoes Cymru; a bydd yn gweithredu fel adnodd addysgiadol i ddysgwyr Cymraeg hefyd.”

Mewn gwirionedd mae’r addewid hwn yn codi cymaint o gwestiynau ag y mae’n eu hateb. Ai cylchlythyr ar y we fydd hwn, neu a fydd yn cael ei gynnwys yn y papur newydd yn ogystal? Os mai ar y wefan, a fydd yn cael lle digon amlwg i ddenu sylw teilwng? Ai’r bwriad yw i hwn gymryd lle’r Herald Cymraeg, neu ychwanegu ato?

Gofynnwyd y cwestiynau hyn i’r Daily Post, ond ni chafwyd atebion hyd yma. Hyd nes ceir hynny, mae’r ansicrwydd a’r pryderon am ddyfodol yr Herald yn debygol o barhau.

Agwedd fwy Cymreig

Er gwaethaf y dirywiad yn ei ddarpariaeth Gymraeg, rhaid cydnabod bod y Daily Post yn llawer mwy Cymraeg a Chymreig ei agwedd nag yr oedd mewn blynyddoedd a fu. Cymry yw’r rhan fwyaf o’i ohebwyr ac mae digwyddiadau Cymraeg a materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac argyfwng cymunedau Cymraeg yn cael sylw digon teg a theilwng.

Mae’n hawdd anghofio heddiw mor Seisnig oedd y papur rai degawdau’n ôl pan oedd yn ‘argraffiad Cymreig’ y Liverpool Daily Post. Roedd sawl un o’i golofnwyr, fel Ivor Wynne Jones, yn agored wrth-Gymreig, ac eraill yn Saeson a fyddai’n fynych yn dangos eu hanwybodaeth a diffyg dealltwriaeth o Gymru.

Ei golofnydd enwocaf yn yr 1970au cynnar oedd neb llai na George Thomas, a’i golofnau ymfflamychol yn eilun addoli’r sefydliad Seisnig yn barhaus.

Roedd cymaint o ddarllen ar y Daily Post yn y dyddiau hynny fel ei bod yn farn gyffredinol i golofnau George Thomas gyfrannu’n helaeth at droi’r Gymru Gymraeg yn erbyn y Blaid Lafur. Yn wir, mae’n gwbl bosib bod hyn wedi bod yn ddigon i wneud y gwahaniaeth a alluogodd Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas ennill Caernarfon a Meirionnydd dros Blaid Cymru yn 1974. Eironi pellach yw mai Dafydd Wigley sydd wedi bod yn un o golofnwyr amlycaf ac uchaf ei barch y papur dros y blynyddoedd diwethaf.

Er bod agweddau’r papur wedi newid er gwell, mae’n dangos arwyddion o ddirywiad mawr dros y blynyddoedd. Yn ôl ffigurau swyddogol yr ABC, roedd ei gylchrediad wedi gostwng i 12,500 ar gyfartaledd y llynedd. (Mwy trawiadol fyth yw gweld yr un ffigurau’n dangos cylchrediad y Western Mail i lawr i 7,200.)

Arwydd arall o ddirywiad y Daily Post yw’r ffordd mae wedi ymdebygu fwyfwy i bapur lleol dros y blynyddoedd. Lle gynt y byddai’n adrodd ar faterion mawr y dydd, straeon am ddamweiniau angheuol, ciwiau traffig ar yr A55 neu am droseddwyr treisgar neu bedoffiliaid sy’n cael y sylw blaenaf bellach. Gwn am amryw o’i ddarllenwyr traddodiadol sy’n cael eu diflasu gan ormodedd o straeon o’r fath.

Nodwedd arall braidd yn ddiflas sy’n perthyn i’r papur ar hyn o bryd yw ei bwyslais parhaus ar ‘North Wales’. Hyd yn oed mewn penawdau, dyw’r gair ‘Wales’ ddim digon da – rhaid iddo fod yn ‘N Wales’ bob tro. Mae’r obsesiwn hwn yn dipyn o ddirgelwch o gofio y byddai llawer o’i ddarllenwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn unieithu eu hunain o leiaf gymaint â phobl Ceredigion â Glannau Dyfrdwy.

Ansicrwydd

Gyda’i gylchrediad wedi gostwng i’r fath raddau, ynghyd ag argraff gyffredinol fod proffil oedran ei ddarllenwyr yn weddol hen, rhaid amau a ydi dyfodol y Daily Post gymaint â hynny’n fwy sicr na dyfodol yr Herald.

Mae’n gwestiwn i bob papur newydd wrth gwrs – i ba raddau y bydd modd cyfiawnhau’r gost o argraffu a dosbarthu newyddion a oedd ar gael ar amrantiad ar i-pad y diwrnod cynt?

Cwestiwn i’r dyfodol fydd hynny. Yn y cyfamser, mae angen argyhoeddi’r Daily Post y byddai rhoi mwy o le i’r Gymraeg yn rhoi cyfle i’r papur ennill teyrngarwch ei ddarllenwyr.

Gallwn fod yn weddol sicr fod mwyafrif clir o’i ddarllenwyr yn siaradwyr Cymraeg. Mae cyfran helaeth o’i ddarllenwyr o’r gogledd-orllewin Cymraeg, a gallwn fod yn sicr hefyd fod y papur yn fwy tebygol o apelio at y boblogaeth frodorol na mewnfudwyr o Loegr.

Gallai tudalen dyddiol Gymraeg yn ychwanegu’n fawr at apêl y papur, a gallai geirfa helpu ennyn diddordeb rhai llai sicr eu Cymraeg. Yn yr un modd, gallai fod lle i frawddeg neu ddwy o grynodeb Saesneg roi rhywfaint o flas y straeon i’r di-Gymraeg.

Lawn cyn bwysiced yw sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg ar wefan y papur. Nid yw’n wefan arbennig o dda, ond mae’n well nag y bu. Byddai cynnal archif o ysgrifau Cymraeg yn gallu ychwanegu’n fawr at ei hapêl.

Byddai mwy o ddeunydd Cymraeg yn gallu ehangu ei orwelion daearyddol hefyd, yn lle’i fod yn dibynnu’n barhaus ar ymlyniaeth i ryw le artiffisial o’r enw ‘N Wales’.

Gyda’r Daily Post a’r Western Mail yn ymddangos fel pe baen nhw bellach ar lethr di-droi’n-ôl i lawr at ddifodiant terfynol, mae’n amlwg y bydd angen iddyn nhw feddwl o’r newydd am eu dyfodol. Tybed na fyddai cyfrwng ar-lein a fyddai’n cynnwys deunydd Cymraeg a Saesneg, ac a fyddai’n anelu at Gymru gyfan, yn cynnig un ffordd synhwyrol ymlaen iddynt?