Mae mapiau sy’n datgelu maint datgoedwigo ar draws y byd wedi eu cyhoeddi gan Brifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o’r prosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd, sydd wedi ei drefnu gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA), mae ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop wedi dod ynghyd i gynhyrchu’r mapiau gyda data lloeren.

Yn ôl y brifysgol, maen nhw wedi canfod bod colledion sylweddol mewn coedwigoedd yn ardal yr Amazon a chanolbarth Affrica, a hynny oherwydd datgoedwigo.

Map lloeren sydd wedi ei gyhoeddi gan y prosiect

Mae’r mapiau hefyd yn dangos effeithiau y tu hwnt i ddatgoedwigo gan bobol, gan gynnwys effeithiau clefyd coed llarwydd yn y Deyrnas Unedig a thanau yn Awstralia.

Caiff hyn effaith ehangach ar yr hinsawdd gan fod carbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer wrth i goed gael eu dinistrio, sy’n achosi cynhesu byd-eang.

Roedden nhw hefyd wedi canfod ardaloedd lle mae maint coedwigoedd yn ehangu, gan gynnwys Siberia yn Rwsia.

‘Atal colledion pellach’

Wrth gyhoeddi’r mapiau, dywedodd yr Athro Richard Lucas o Grŵp Arsylwi’r Ddaear ym Mhrifysgol Aberystwyth fod angen defnyddio’r wybodaeth i “atal colledion pellach o goedwigoedd.”

“Dros y degawdau diwethaf, rydym wedi gweld nifer sylweddol o goedwigoedd ar draws y byd yn diflannu gan arwain at ryddhau carbon sy’n effeithio’n andwyol ar ein hinsawdd,” meddai.

“Rydym hefyd wedi bod yn gwylio dirywiad cynyddol bioamrywiaeth ar draws y byd. Gall y mapiau newydd hyn ddangos dosbarthiad biomas ar draws y byd a sut mae’n newid.

“Mae angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth hon nawr er mwyn atal colledion pellach o goedwigoedd a sicrhau’n rhagweithiol eu bod yn mynd ati i ddal carbon i’r dyfodol.

“Adfer y colledion a achoswyd gan y newid yn y modd y mae tir wedi bod yn cael ei ddefnydd yn ystod y degawdau a’r canrifoedd diwethaf yn unig y mae coedwigoedd; mae eu cyfraniad at wneud iawn am allyriadau yn eu cyfanrwydd yn llai.

“Mae sicrhau allyriadau sero net o ffynonellau eraill cyn gynted â phosibl yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

‘Darparu gwybodaeth allweddol’

Roedd asiantaeth NASA ac Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan (JAXA) wedi cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth a’r ESA er mwyn datblygu platfform sy’n cofnodi colledion coedwig ar raddfa fyd-eang a rhanbarthol.

Cafodd gwaith y tîm ei arddangos yn yr uwchgynhadledd COP26 yng Nglasgow.

Yn ystod yr uwchgynhadledd, fe wnaeth gwleidyddion o dros 100 o wledydd ymrwymo i ddod â datgoedwigo i ben erbyn 2030.

Dywedodd Heather Kay o Brifysgol Aberystwyth, sy’n rheolwr ar brosiect Biomas Menter Newid Hinsawdd yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd ei bod yn “galonogol clywed gweinidogion ac eraill yn COP26 yn tynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith Arsylwi’r Ddaear rydyn ni’n ei wneud yma yn Aberystwyth”.

“Roedd cydnabyddiaeth eang o’r mantra mai dim ond yr hyn y gallwch ei fesur y gallwch ei reoli, ac mae ein mapiau o fiomas coedwigoedd byd-eang sydd uwchben y ddaear yn darparu’r math hwn o wybodaeth,” meddai.

“O ystyried yr addewid newydd a wnaed yn COP26 i atal datgoedwigo erbyn 2030, gall ein setiau data ddarparu gwybodaeth allweddol ynghylch a yw’r targedau hyn yn cael eu cyflawni.”

Cop26: mwy na 100 o wledydd yn arwyddo cytundeb i ddiogelu coedwigoedd y byd

Arweinwyr sy’n gyfrifol am 85% o goedwigoedd y byd yn cytuno i ddod a datgoedwigo i ben erbyn 2030