Mae’r Aelod o’r Senedd dros Arfon wedi dweud fod achlysur Diwrnod y Rhuban Gwyn yn “fwy perthnasol nag erioed”.

Caiff diwrnod ‘Dileu trais yn erbyn menywod a merched’ ei gynnal gan y Cenhedloedd Unedig ar 25 Tachwedd bob blwyddyn, ac mae’n cael ei adnabod hefyd fel Diwrnod y Rhuban Gwyn.

Bwriad yr achlysur yw codi ymwybyddiaeth am drais gan ddynion yn erbyn menywod, ac ymdrechu i ddod â hynny i ben.

Mae’r ymgyrch yn y Deyrnas Unedig yn derbyn cefnogaeth gan elusen White Ribbon UK, sy’n ceisio annog dynion i beidio â chyflawni, esgusodi, na goddef trais yn erbyn menywod.

Mae nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd heddiw (dydd Iau, 25 Tachwedd) er mwyn cydnabod y diwrnod, ac mae Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru wedi dweud bod angen i sgyrsiau am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar y troseddwr, yn hytrach na’r dioddefwr.

‘Nid yn fy enw i’

Fe wnaeth Senedd Cymru gynnal gwylnos ‘Nid yn fy enw i’ nos Lun (22 Tachwedd) ar risiau’r adeilad, ac roedd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, yn bresennol.

“Mae’r achlysur hwn yn fwy perthnasol nag erioed,” meddai.

“Fe wnaeth llofruddiaeth erchyll Sarah Everard yn gynharach eleni ddod â’r mater i sylw’r cyhoedd, gan arwain at ferched eraill yn rhannu eu profiadau ofnadwy.

“Pwyslais Diwrnod y Rhuban Gwyn yw codi llais, ac annog dynion a bechgyn i ysgwyddo’r cyfrifoldeb i gael gwared ar drais yn erbyn menywod.”

‘Sefyllfa yn dorcalonnus’

Mae ymchwil newydd yn dangos bod effeithiau trais yn erbyn menywod yn “sylweddol” a “hirhoedlog”, ac yn cynnwys problemau iechyd meddwl a cheisio cyflawni hunanladdiad, a chyfeiriodd Siân Gwenllian at gyfraddau trais domestig yng Nghymru er mwyn pwysleisio difrifoldeb y sefyllfa.

“Mae realiti’r ystadegau yn enbyd,” meddai.

“O’r achosion o drais domestig a gafodd eu riportio yng Nghymru yn 2019, ni lwyddodd 88% ohonyn nhw i gyrraedd y llys.

“Gwelwyd cynnydd o 83% mewn troseddau’n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru rhwng 2015-2019.

“Mae cyfartaledd y menywod sy’n cael eu treisio bob dydd yng Nghymru a Lloegr yn erchyll – 102.

“Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus, ac mae tystiolaeth ddiweddar gan fenywod o sbeicio drwy nodwyddau yn ddychrynllyd.

“Ddylen ni ddim gorfod ymgyrchu ar hyn, ond mae realiti tywyll y sefyllfa yn dangos bod angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r gwarth cymdeithasol yma.”

‘Rwyf yn annog pob dyn i wrando ar fenywod’

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r diwrnod hefyd, gyda’r Prif Weinidog yn annog pob dyn i wrando ar fenywod er mwyn rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

“Heddiw, rydyn ni’n nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn – menter fyd-eang i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod,” meddai Mark Drakeford.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod amser. Rydyn ni am roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched. Mae’n broblem gymdeithasol sy’n gofyn am ateb cymdeithasol.

“Rhaid inni ei gwneud yn glir nad menywod sydd angen addasu ei hymddygiad, ond y rhai sy’n cam-drin.

“Rydyn ni’n cryfhau ein strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol er mwyn gwneud mwy i fynd i’r afael â thrais gan ddynion a’r cynnydd parhaus mewn aflonyddu ar fenywod a merched yn eu cartrefi ac ein strydoedd.

“Mae hynny’n golygu gallu siarad yn agored am gamdriniaeth ac ymddygiad rhywiaethol ymhlith ffrindiau, cydweithwyr a chymunedau, er mwyn hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch.

“Rwyf yn annog pob dyn i wrando ar fenywod a dysgu eu cefnogi, fel y gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, byth ei esgusodi, nac aros yn dawel amdano.”

‘Angen i sgyrsiau am drais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar droseddwyr, nid ymddygiad y dioddefwr’

Angen gofyn i ddynion a bechgyn herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr, a’u cymunedau, meddai Llywodraeth Cymru